gwelededd ddewislen symudol Toggle

Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Yn sigl problemau mecanyddol gydag offer cywasgu yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn Aberhonddu, Y Drenewydd a Llandrindod, mae llai o le gennym ar gyfer deunyddiau penodol ar hyn o bryd. Os fyddan nhw'n brysur, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r staff gau rhai cynwysyddion / sgipiau ailgylchu yn gynnar. Mae'n bosibl y gofynnir i breswylwyr ddychwelyd ryw dro eto. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

CAGC Y Drenewydd - Mae'n bosibl na fydd y ganolfan hon yn gallu derbyn: gwastraff gardd, pren/coed, cardfwrdd, plastigau meddal a sbwriel cyffredinol.

CAGC Llandrindod ac Aberhonddu - Mae'n bosibl na fydd y canolfannau hyn yn gallu derbyn: cardfwrdd, plastigau caled, eitemau swmpus (peiriannau golchi / soffas/ ac ati) a sbwriel cyffredinol.