Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Nid yw Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn derbyn silindrau a photeli nwy bellach

Image of gas bottles

24 Mai 2023

Image of gas bottles
O 1 Mehefin 2023, ni fydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Powys yn derbyn silindrau a photeli nwy.

Mae llawer o fathau gwahanol o silindrau a photeli nwy, a'r bwriad yw defnyddio mwyafrif y rhai mwyaf dro ar ôl tro. Unwaith y byddant yn wag, neu os nad oes eu heisiau bellach, gellir dychwelyd y silindrau a photeli propan a bwtan mawr i fusnesau cynhyrchu neu fanwerthu, lle byddant yn destun gwiriad ac yn cael eu defnyddio eto am flynyddoedd i ddod. Mewn rhai achosion, hwyrach y byddwch yn gallu hawlio blaendal wrth ddychwelyd y math yma o boteli nwy.

Gellir gwirio'r silindr neu'r botel am fanylion o ran sut i'w dychwelyd a'i ailgylchu, neu ewch i:

www.calor.co.uk/gas-bottles/refills-and-returns/returns  

www.flogas.co.uk/gas-bottles/returns

Bwriedir tuniau nwy gwersylla llai eu maint ar gyfer defnydd unigol yn unig, ond weithiau gellir dychwelyd y rhain i gwmnïau cyflenwi hefyd (dylid gwirio gyda'ch adwerthwr yn gyntaf). Os byddwch yn eu hailgylchu, gofalwch fod y tuniau'n hollol wag cyn mynd â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref lleol.

"Mae gofalu ein bod yn cael gwared ar neu'n ailgylchu hen eitemau neu eitemau nad oes eu heisiau bellach yn bwysig iawn," eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Trwy gydweithio gyda Grŵp Potters, y contractwyr sy'n gyfrifol am reoli Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y sir, rydym yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn cael gwared ar eich gwastraff mewn ffordd gyfrifol mor rhwydd â phosibl.

"Er hynny, ni fedrwn dderbyn rhai eitemau yn y safleoedd ailgylchu. O 1 Mehefin 2023 ni fyddwn yn gallu derbyn silindrau a photeli nwy bellach.

"Er y bydd yn ymddangos yn anghyfleus efallai, mewn gwirionedd mae'n rhwydd iawn ailgylchu'r eitemau hyn trwy eu dychwelyd i'r man lle'u prynwyd. Os nad yw hyn yn opsiwn, gallwch gysylltu â Calor Gas neu Flo Gas yn uniongyrchol i drefnu eu dychwelyd.

"Y peth pwysicaf oll yw cofio na ddylid byth lluchio poteli, silindrau neu duniau nwy i'ch bin sbwriel cyffredinol, oherwydd mae'n bosibl y byddant yn ffrwydro yn y lorïau neu yn y safleoedd trosglwyddo adeg eu gwasgu."

Mae rhestr gyflawn o'r eitemau y gellir eu hailgylchu, a'r hyn nad yw'n bosibl ei ailgylchu wrth ochr y ffordd ac yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar-lein yma: A - Y o wastraff ac eitemau i'w hailgylchu