Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treial Arloesol Sganio|Ailgylchu|Gwobr i'w gynnal yn Aberhonddu

Image of the Scan Recycle Reward logo

24 Mai 2023

Image of the Scan Recycle Reward logo
Cyn bo hir bydd preswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr ag Aberhonddu yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn treial arloesol Sganio|Ailgylchu|Gwobr sy'n cael ei lansio yn y dref yr haf hwn.

Dan arweiniad Cynghrair Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Powys a manwerthwyr lleol, bydd y treial 12 wythnos o hyd yn profi sut all technoleg ddigidol gael ei defnyddio i annog rhagor o ailgylchu yn Aberhonddu. 

Bydd y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn profi dull newydd digidol o dracio ailgylchu. Bydd cyfranogwyr y treial yn gallu hawlio gwobrau ariannol drwy sganio cynwysyddion diod â labeli unigryw gyda ffôn symudol cyn ailgylchu yn y cartref, neu drwy gasgliadau cyffredin ymyl y ffordd, neu ddefnyddio mannau amrywiol ailgylchu ar hyd y lle o gwmpas y dref.

Bydd cynwysyddion diod â labeli unigryw ar gael i'w prynu oddi wrth lawer o siopau yn Aberhonddu, a bydd rhestr gyflawn o fanwerthwyr cyfranogol, a lleoliadau'r mannau ailgylchu ar hyd y lle ar gael ar-lein cyn bo hir.

Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Caiff pob cartref cymwys yn Aberhonddu wahoddiad cyn bo hir i gymryd rhan yn nhreial arloesol Sganio|Ailgylchu|Gwobr. Ar ôl i'r holl fanylion a'r dyddiad gael eu cadarnhau, bydd pecyn sy'n cynnwys yr holl wybodaeth am sut i gymryd rhan yn cael ei ddosbarthu.

"Er ei fod yn gwbl wirfoddol, rydym ni'n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn ymuno er mwyn ein helpu ni i wella cyfraddau ailgylchu gan fanteisio hefyd ar y gwobrau ariannol sydd ar gynnig. Am bob cynhwysydd sy'n cael ei sganio a'i ailgylchu'n gywir, bydd cyfranogwyr yn cael dewis cadw'r wobr ariannol neu ei rhoi i elusen leol.

"Bydd y treial yn ein helpu ni i ddeall pa opsiynau dychwelyd sydd orau gan bobl ar gyfer y mathau hyn o gynwysyddion a dysgu rhagor am ymddygiad ailgylchu. Dyma'r tro cyntaf y bydd tref gyfan unrhyw le yn y byd yn defnyddio'r dechnoleg newydd hon a bydd y canfyddiadau yn cael eu dadansoddi a'u rhannu â gweddill y DU, gan osod Aberhonddu ar y blaen o ran arloesedd ailgylchu.

"Edrychwn ymlaen yn fawr at eich cyfranogiad dros y misoedd nesaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diod.  Y nod yw y bydd y cynllun yn mynd yn fyw ym mis Hydref 2025. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â sbwriel poteli a chaniau ac i yrru cyfradd ailgylchu uchel Cymru hyd yn oed yn uwch. Mae'r treial hwn yn bwysig o ran deall a phrofi sut orau i redeg cynllun o'r fath mewn cymuned sydd eisoes yn bod, casglu gwybodaeth ar ymateb defnyddwyr a sut y gellid defnyddio technoleg arloesol wrth ei redeg.

"Rydym yn croesawu cymorth mawr Cyngor Sir Powys a'r Gynghrair Cynllun Dychwelyd Ernes Digidol sydd wedi arwain ar ddatblygu a gweithredu'r treial. Ond bydd angen rhoi diolch arbennig i bobl Aberhonddu am eu cyfranogiad a'u hymgysylltiad i wneud y peilot hwn yn brofiad dysgu llwyddiannus ac amhrisiadwy."

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein cyn bo hir am Sganio|Ailgylchu|Gwobr gan gynnwys cyfarwyddiadau cymryd rhan, rhestr o'r manwerthwyr cyfranogol, a manylion am yr holl fannau ailgylchu ar hyd y lle: Sganio | Ailgylchu | Gwobr