Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Powys yw'r cyntaf yn y DU i fod yn gyfeillgar i Endometriosis

Endometriosis Friendly Employer Scheme Logo

25 Mai 2023

Endometriosis Friendly Employer Scheme Logo
Mae Cyngor Sir Powys wedi arwyddo i ddyfod yn Gyflogwr Endometriosis Gyfeillgar, yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU i wneud hynny.

Mae'r cynllun, o dan arweiniad Endometriosis UK, yn darparu cyfarwyddyd am sut i gefnogi gweithwyr sydd ag Endometriosis, gyda'r cyflogwyr yn ymroi i ddarparu'r cymorth angenrheidiol sydd ei angen ar y rheini sydd â'r cyflwr i ffynnu yn y gwaith.

Wrth ddyfod yn Gyflogwr Endometriosis Gyfeillgar, mae Cyngor Sir Powys yn dangos ymroddiad i gefnogi staff sydd â'r cyflwr a mynd i'r afael â stigma a newid y diwylliant sy'n amgylchynu endometriosis yn y gweithle.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Fel cyflogwr, rydym ni'n ymroddedig i gefnogi ein gweithlu a helpu gweithwyr i gyrraedd eu llawn botensial.Dyna pam ein bod ni'n falch o fod wedi arwyddo i ddyfod yn Gyflogwr Endometriosis Gyfeillgar.

"Drwy gydol y flwyddyn bydd gennym raglen o gyfathrebiadau a digwyddiadau ar yr amserlen i staff a chynghorwyr y cyngor ddysgu rhagor am y cyflwr a sut i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda'r clefyd.

"Rydym ni wedi penodi Eiriolwr Dros Endometriosis, Lowri Shepstone, sy'n aelod o staff ac yn byw gyda'r cyflwr gan wirfoddoli i Endometriosis UK yn ei hamser sbâr fel Arweinydd Grŵp Cefnogi Canolbarth Cymru. Fel eiriolwr, bydd Lowri yn brif bwynt cyswllt i staff am gymorth a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r clefyd.

"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli rhagor o fusnesau a sefydliadau ym Mhowys a ledled Canolbarth Cymru i arwyddo ac ymroi i gefnogi staff sydd â'r cyflwr, fel eu bod nhw'n gallu ffynnu yn y gwaith."

Dywedodd Emma Cox, Prif Weithredwr Gweithredol Endometriosis UK: "Mae cyflogwyr sy'n arwyddo i'r cynllun yn helpu i chwalu'r tabŵ a'r stigma sydd o gwmpas endometriosis a chyflyrau'r mislif, a datblygu amgylchedd gwaith ble mae'r holl staff yn gyfforddus i siarad am addasiadau ymarferol posibl a allai fod o fudd.

"Diolch enfawr i Gyngor Sir Powys am hyrwyddo a chefnogi'r rheini sydd ag endometriosis ac arwyddo i'r cynllun.

"Bellach, rydym ni'n edrych ymlaen at weld llawer o gyflogwyr eraill yn dilyn yr arweiniad hwn."

Am wybodaeth ac adnoddau i gyflogwyr sy'n delio â staff sy'n dioddef o Endometriosis yn ogystal â manylion Grŵp Cymorth Canolbarth Cymru, ewch i wefan Endometriosis UK: www.endometriosis-uk.org