Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ai chi fydd prentis nesaf y cyngor?

Apprenticeships

25 Mai 2023

Apprenticeships
Ydych chi'n graddio o'r brifysgol, gorffen yr ysgol yr haf hwn, neu efallai 'n ffansïo newid eich gyrfa?

Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cyfle i bobl ennill cyflog wrth iddynt ennill cymhwyster heb ffioedd prifysgol na choleg.

Diddordeb?

Mae'r cyngor yn chwilio am Brentis Cydlynu Rhaglenni, Prentis Trydanwr Goleuadau Stryd a Phrentis Gweinyddu Hyfforddiant. Gallwch ddarganfod rhagor yma https://cy.powys.gov.uk/swyddi

Bydd prentisiaid yn derbyn Cyflog Byw Gwirioneddol o £10.90 yr awr a gallai ein Prentisiaid ar lwybr graddfa gyrfaol dderbyn hyd yn oed mwy, a swydd barhaol ar ôl cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus.

Dywedodd Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys, Jake Berriman: "Mae'r cyngor yn ymroddedig i gynnig cyfleoedd i bawb sy'n dechrau ar eu gyrfa ac sydd am gael cymhwyster wrth iddynt ennill cyflog am weithio.

"Rydyn ni'n wirioneddol edrych ymlaen at groesawu rhagor o brentisiaid i'r cyngor a rhoi cyfleoedd ardderchog iddynt o ran cyfleoedd dysgu a datblygu, i ffynnu yn eu gyrfaoedd.

"Os oes diddordeb gennych gael cyfle newydd, byddwn yn eich annog i ymgeisio am un o'n prentisiaethau cyfredol neu ymuno â'r Gronfa Talent Prentisiaethau a chofrestru eich diddordeb am gyfleoedd prentisiaethau gyda'r cyngor.

Gwyliwch allan am ragor ynghylch cyfleoedd prentisiaeth fydd ar gael cyn bor hir ar: https://cy.powys.gov.uk/swyddi