Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol G.G. Pontsenni

Fel rhan o'r prosiect, bydd adeilad dwy ffrwd newydd yn cael ei adeiladu ar gyfer Ysgol G.G. Pontsenni.

Bydd lle i 150 o ddisgyblion yn yr adeilad newydd, a fydd wedi'i leoli ar safle'r ysgol bresennol, a bydd hefyd yn cynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar a darpariaeth gymunedol. Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu i safonau gweithredu Carbon Sero Net, gan sicrhau ei bod yn effeithlon o ran defnydd o ynni.

Bydd yr adeilad newydd yn cymryd lle'r adeilad presennol, sydd mewn cyflwr gwael, a bydd yn gwella ansawdd y cyfleusterau ar gyfer dysgwyr ym Mhontsenni yn sylweddol.