Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwastraff bwyd - ailgylchwch, yn hytrach na'i roi yn y bin!

Image of a wheeled bin with a 'no food waste' sticker

30 Mai 2023

Image of a wheeled bin with a 'no food waste' sticker
Rydym yn atgoffa trigolion Powys i beidio â rhoi gwastraff bwyd yn eu bin ag olwynion, ac y dylid yn lle ailgylchu unrhyw fwyd dros ben neu fwyd nad oes ei eisiau, trwy'r casgliadau ailgylchu bob wythnos.

Bydd tîm ymwybyddiaeth gwastraff a gorfodi'r cyngor yn ymuno â'r criwiau ailgylchu ar draws y sir i weld faint ohonom sy'n ailgylchu ein gwastraff bwyd yn gywir bob wythnos. Tra byddan nhw ar y rowndiau casglu, bydd y tîm yn gadael nodyn i'n hatgoffa i beidio â rhoi gwastraff bwyd yn y bin sbwriel cyffredinol, ac yn cynnig cyngor i drigolion ar sut i fanteisio i'r eithaf ar gasgliadau ailgylchu bwyd gwastraff bob wythnos.

Er y bydd y rhan fwyaf o gartrefi Powys yn ailgylchu eitemau cyffredin megis papur a cherdyn, gwydr, poteli plastig a blychau, nid yw llawer yn ailgylchu eu gwastraff bwyd o hyd. A dweud y gwir, bwyd yw rhyw chwarter o gynnwys y biniau sbwriel cyffredin o hyd, a gellir ailgylchu hyn oll yn y blychau gwastraff bwyd yn rhwydd.

Awgryma ymchwil fod rhai pobl sy'n gyndyn i ailgylchu bwyd yn cael eu rhwystro gan y 'ffactor ych a fi'. Fodd bynnag, trwy wahanu bwyd dros ben, pilion llysiau, plisgyn wyau a'r holl eitemau gwastraff bwyd eraill o'ch biniau sbwriel normal, byddwch yn lleihau'r posibilrwydd o gael biniau budr.

"Mae cynnwys ein blychau gwastraff bwyd yma ym Mhowys yn cael ei gasglu bob wythnos," eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae hyn yn golygu ei fod yn llawer llai tebygol o ddrewi a mynd yn fudr nag os byddwch yn rhoi eich gwastraff bwyd allan yn y bin ag olwynion a gesglir bob tair wythnos.

"Hefyd, trwy ddefnyddio'r leininau bwyd am ddim yn y blwch bwyd, byddwch yn cadw'r aroglau a bydd y risg o golli cynnwys mor isel â phosibl. "

Mae buddion eraill i ailgylchu gwastraff bwyd hefyd, yn enwedig oherwydd mae'n helpu'n uniongyrchol i drechu newid hinsawdd. Ym Mhowys, rydym yn anfon ein gwastraff bwyd i gyfleuster treulio anaerobig, lle caiff ei droi'n ynni gwyrdd.

Wyddoch chi y gall

  • Ailgylchu 32 o grwyn banana greu digon o ynni i redeg cartref cyffredin am awr.
  • Ailgylchu 12 o fagiau te greu digon o ynni i wefru llechen yn llawn.
  • Ailgylchu llond blwch o wastraff bwyd greu digon o drydan i redeg oergell am 18 awr.

"Mae trigolion Powys yn gwneud gwaith gwych wrth ailgylchu, a dyna'r rheswm bod gennym raddfa ailgylchu benigamp o dros 68%, a gall pawb chwarae ei ran yn rhwydd gyda'r gwastraff bwyd a helpu trechu effeithiau newid hinsawdd yn uniongyrchol," ychwanegodd y Cyng. Charlton.