Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ar fin dechrau ar bont teithio llesol y Drenewydd

Image of an artists impression of the new Newtown active travel bridge

31 Mai 2023

Image of an artists impression of the new Newtown active travel bridge
Bydd gwaith adeiladu hirymarhous yn dechrau ar bont i gerddwyr a seiclwyr dros Afon Hafren yn y Drenewydd ddechrau'r mis nesaf.

Mae'r gymuned leol wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol mewn sesiwn galw heibio cyhoeddus ddydd Mawrth 13 Mehefin rhwng 3pm - 7pm, yn Neuadd Farchnad y Drenewydd, er mwyn darganfod rhagor am y bont newydd, y broses adeiladu, a'r hyn fydd yn digwydd yn lleol wrth iddi gael ei hadeiladu.

Bydd y bont, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cysylltu llwybr ymyl yr afon â Ffordd y Trallwng yn y Drenewydd gan greu cyswllt teithio llesol diogel rhwng cymunedau, busnesau ac amwynderau bob ochr i'r afon.

Bydd y cwmni adeiladu, JN Bentley yn gyfrifol am adeiladu'r bont newydd ar ran Cyngor Sir Powys, a dylai cymunedau lleol bob ochr i'r afon ddisgwyl eu gweld ar y safle o 19 Mehefin 2023 tan ddiwedd y flwyddyn.

"Bydd y bont hon yn gwneud gymaint o wahaniaeth i'r rheini sy'n byw yn yr ardal leol ac yn bendant yn rhoi'r cyfle iddynt wneud taith fer i'r gwaith, ysgol neu'r siopau lleol ar feic neu ar droed, yn hytrach na mewn car." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae llwybrau teithiau llesol yn gwella ledled y sir ac yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rydym ni'n gyffrous bod y bont newydd hon, yn un o'n prosiectau teithio llesol mwyaf uchelgeisiol ac yn dwyn ffrwyth o'r diwedd ar ôl blynyddoedd o gynllunio.

"Rydym ni'n edrych ymlaen at gwrdd â'r gymuned leol yn ystod ein sesiwn galw heibio ar 13 Mehefin er mwyn rhannu cynlluniau am beth fydd yn digwydd ar y safle ac yn yr ardal leol dros y misoedd a ddaw. Mae croeso i bawb fod yn bresennol."

Sesiwn galw heibio

Dewch i ddarganfod rhagor am y bont newydd i seiclwyr a cherddwyr, y broses adeiladu a beth fydd yn digwydd yn lleol wrth iddi gael ei hadeiladu.

Pryd: Dydd Mawrth 13 Mehefin , 3pm - 7pm
Ble: Neuadd y Farchnad y Drenewydd (Mynedfa'r Stryd Fawr), Stryd Fawr, y Drenewydd. SY16 2XN