Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Mae'r cyngor yn monitro'r sefyllfa ar ôl i ddarparwr band eang fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

A broadband router

1 Mehefin 2023

A broadband router
Mae Cyngor Sir Powys yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau ar ôl i Bartneriaid Broadway gael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r darparwr band eang wedi bod yn gweithio ar saith o gynlluniau cymunedol yn y sir gyda'r nod o ddod â chysylltiadau ffeibr cyflym iawn i ragor o gartrefi mewn ardaloedd gwledig. Roedd disgwyliad wedi bod hefyd iddo ddyfod yn gyflenwr ar gyfer sawl un arall a oedd yn parhau i fod yn y cam o asesu'r galw.

Mae yna obeithion y bydd prynwr yn cael ei ganfod yn ystod y broses o fod yn nwylo'r gweinyddwyr, ond, os yw'n angenrheidiol, bydd yn cyngor yn ystyried gweithio â chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio i ddod o hyd i ddarparwr arall.

Yr unig gynllun band eang cymunedol yn y sir ble mae cartrefi wedi cael eu cysylltu â ffeibr cyflym iawn hyd yma, yw Aberedw a Glascwm. Cafodd cwsmeriaid yn yr ardal hon eu hysbysu gan y cwmni a'i weinyddwyr, yn Teneo, fod ei rwydwaith yn parhau i weithredu a bod ei sianeli gwasanaeth cwsmeriaid arferol yn parhau ar agor.

Dolen i ddatganiad Partneriaid Broadway a Teneo: https://broadwaypartners.co.uk/#:~:text=Broadway%20Partners%20Limited,Teneo.com

"Wrth i'r sefyllfa gyda Phartneriaid Broadway esblygu, mae'n bosibl y bydd yna oedi neu newidiadau i brosiectau sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd," dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Cysylltu Powys: "Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu fel cefnogwr y cynlluniau hyn i isafu aflonyddwch a pharhau'r ymroddiad i sicrhau cysylltedd dibynadwy, cyflymder uchel, i gynifer o'n cymunedau ag sy'n bosibl.

"Mae darparu gwell mynediad digidol i gartrefi a busnesau gwledig yn parhau'n rhan allweddol o'n cynlluniau i adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach."

Y cymunedau eraill ym Mhowys y mae Partneriaid Broadway wedi bod yn gweithio â nhw yw Llanafan Fawr a Llanwrthwl, Dwyriw a Manafon, Llangunllo a Llanddwi-yn-Hwytyn, Rhaeadr Gwy, a Chastell-paen.

Dylai unrhyw yn y cymunedau hyn sydd â chwestiynau am gynlluniau band eang eu cymunedau gysylltu: broadband@powys.gov.uk