Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Benthyg Beic Balans

Cllr David Selby with a balance bike

05 Mehefin 2023

Cllr David Selby with a balance bike
Bellach mae beiciau balans ar gael i'w benthyg gan lyfrgelloedd penodol ar draws Powys, yn ôl y cyngor sir.

Trwy fenter ar y cyd rhwng Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys a Thîm Datblygu Chwaraeon (Chwaraeon Powys), bellach mae aelodau llyfrgelloedd yn cael benthyg beic balans am ddim.

Mae'r beiciau, sy'n cynnwys helmed, yn addas ar gyfer plant 2 - 6 oed ac maent ar gael i'w benthyg am hyd at 4 wythnos ar y tro, o'r llyfrgelloedd canlynol:

  • Aberhonddu
  • Llanfair-ym-muallt
  • Y Gelli Gandryll
  • Trefyclo
  • Llandrindod
  • Llanfyllin
  • Llanidloes
  • Y Drenewydd
  • Y Trallwng
  • Ystradgynlais

Mae'r fenter ar gael diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, trwy Chwaraeon Cymru.

Meddai'r Cyng. David Selby, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys fwy Llewyrchus: "Mae hon yn fenter wych, sy'n helpu cefnogi teuluoedd i wella sgiliau a hyder eu plant. Mae dysgu reidio beic yn rhoi blas cyntaf i blant o ran annibyniaeth symudol, ac mae'n weithgaredd gwych ar gyfer y teulu cyfan hefyd.

"Buaswn yn annog unrhyw deulu sydd â phlant ifanc i fanteisio ar y cyfle hwn a benthyg beic balans o'ch llyfrgell agosaf sy'n cynnig y cynllun. Mae'n esgus rhagorol hefyd i ymaelodi â gwasanaeth y llyfrgell, a mwynhau'r holl fanteision eraill sydd ar gael, a hynny oll am ddim."

Os nad ydych chi eisoes yn aelod o lyfrgell ym Mhowys, peidiwch â phoeni - proses syml iawn yw ymaelodi. Gall unrhyw un sy'n byw, gweithio neu sy'n astudio ym Mhowys ymaelodi am ddim.  Ewch i naill ai

https://www.storipowys.org.uk/join?locale=cy neu gallwch daro heibio'ch llyfrgell leol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgelloedd trwy:

Ebostio - library@powys.gov.uk

Ffonio - 01874 612394

Neu gallwch gael hyd i lyfrgell yn eich ardal chi - https://www.storipowys.org.uk/find-a-library?locale=cy