Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Dirwyo preswyliwr am dipio anghyfreithlon ar safle ailgylchu cymunedol

Image of a CCTV camera

5 Mehefin 2023

Image of a CCTV camera
Cafodd preswyliwr o Dde Powys Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 am gael ei ddal yn gadael blychau cardfwrdd ar y tir yn ei safle ailgylchu cymunedol lleol.

Yn dilyn pryderon y cynghorwyr lleol am breswylwyr yn camddefnyddio safle ailgylchu cymunedol ym maes parcio neuadd pentref Llangynidr, gosodwyd camera CCTV gan Dîm Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Gwastraff y cyngor.

Yna, cafodd y sawl a ddrwgdybiwyd ei ddal ar gamera yn gadael cardfwrdd ar y tir. Gan ddefnyddio rhif cofrestru ei gar, cafodd y sawl a ddrwgdybiwyd ei olrhain drwy gronfa data'r DVLA a'i gyflwyno â dirwy.

"Mae rhai pobl o'r farn eu bod nhw'n gallu gadael eu heitemau ar y tir hyd yn oed os yw'r banciau ailgylchu yn llawn." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae hyn yn gwbl amhriodol, y mae'n anghyfreithlon ac yn gyfystyr â thipio anghyfreithlon, fel y mae'r preswyliwr hwn wedi ei ganfod a thalu amdano.

"Rydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi dymuniad pobl i ailgylchu eu gwastraff, ond os yw'r banciau ailgylchu yn llawn, ewch â'ch gwastraff adref a dychwelyd ar ddiwrnod arall yn hytrach na gadael stwff ar y tir.

"Nid yn unig yw hyn yn ddiolwg, ond y mae deunyddiau sy'n cael eu gadael fel hyn yn aml yn cael eu chwythu o gwmpas gan y gwynt ac yn diweddu'n berygl amgylcheddol i'r ardal i gyd. Hefyd, mae'n creu llawer iawn o waith i'n gweithlu sydd eisoes yn ymdopi gyda llawer, wrth iddynt, yn ddiangen, gasglu sbwriel pobl eraill am nad ydyn nhw'n ymdrechu i'w ailgylchu'n gyfrifol."

Wrth weithio gyda'r fenter-bartneriaeth Taclo Tipio Cymru, gall ein Tîm Gorfodi ac Ymwybyddiaeth Gwastraff weithio'n gyflym ac yn rhwydd i osod camerâu isgoch, sensitif i symudiad ledled y sir.  Nid yn unig yw hyn yn gweithredu fel dull o atal effeithiol i'r rhai a allai dorri'r gyfraith, ond mae hefyd yn helpu i ddal unigolion anghyfrifol sy'n camddefnyddio cyfleusterau ailgylchu.

Caiff aelodau o'r cyhoedd eu hannog i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau o dipio anghyfreithlon ar-lein: Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon