Cyn-ddisgybl o Bowys yw Bardd Cadeiriog Eisteddfod yr Urdd eleni
06 Mehefin 2023
Yr wythnos ddiwethaf, urddwyd Tegwen Bruce-Deans o Landrindod fel Prifardd yr Ŵyl gan ennill Cadair yr Eisteddfod yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr.
Ganwyd Tegwen yn Llundain, cyn symud i Landrindod pan oedd hi'n ddwy flwydd oed. Mae hi'n gyn-ddisgybl i Ysgol Trefonnen ac Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt (sef Ysgol Calon Cymru bellach) a graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi bellach yn gweithio fel ymchwilydd i BBC Radio Cymru.
Gan ddefnyddio'r ffugenw 'Gwawr', cystadlodd Tegwen ochr yn ochr ag 11 o feirdd eraill. Y dasg cyfansoddi cerdd neu gyfres o gerddi mewn cynghanedd neu'r wers rydd, hyd at 100 llinell ar y thema 'Afon'.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw: "Rhaid llongyfarch Tegwen ar ei champ ffantastig. Ennill y gadair a bod yn brifardd yw un o wobrau mwyaf mawreddog Eisteddfod yr Urdd, ac mae'n anhygoel bod disgybl o Bowys yn mynd â Chadair yr Eisteddfod adref gyda hi.
"Gydag Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Sir Drefaldwyn y flwyddyn nesaf, rwy'n edrych ymlaen gobeithio at weld enw arall o Bowys yn dod â'r teitl adref."
Ffoto: Tegwen Bruce-Deans, Bardd Cadeiriog Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.
Credyd Ffoto: Urdd Gobaith Cymru