Diogelwch Tân mewn Mannau Cymunedol
Peidiwch storio eitemau mewn mannau cymunol
Fel eich landlord, mae gennym rwymedigaeth i sicrhau bod eich adeilad a'r mannau cymunedol ynddo yn bodloni rheoliadau diogelwch tân. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod yn rhaid i bawb allu dianc yn gyflym ac yn ddiogel, os bydd argyfwng. Gall eitemau fel potiau planhigion, pramiau, sbwriel neu ailgylchu, sgwteri symudedd achosi rhwystrau i lwybrau dianc. Gall hyd yn oed eitemau bach, sy'n ymddangos yn ddiniwed, fel matiau drws neu botiau planhigion fod yn rhwystr os yw'n dywyll ac yn llawn mwg. Mewn tân, gall pobl aros yn agos at waliau i helpu i'w harwain os na allant weld trwy fwg trwchus.
Er eich diogelwch, mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at eitemau mewn mannau cymunedol, sy'n cynnwys grisiau, lifftiau, pen grisiau a chynteddau.
Gofynnwn i chi
- Cadw POB man cymunedol yn glir bob amser
- Rhoi gwybod am unrhyw ddifrod i oleuadau neu larymau tân i powys-repairs@powys.gov.uk neu 01597 827464
- Peidio ymyrryd ag unrhyw system synhwyro tân neu fwg yn y mannau cymunedol neu y tu mewn i'r cartref
Os bydd staff yn dod yn ymwybodol o eitemau mewn mannau cymunedol, byddwn yn cysylltu â phreswylwyr ac yn cael cyfle i symud yr eitemau. Yr amser a roddir fel arfer yw 24 awr. Rhaid, a bydd eitemau sy'n rhwystro llwybrau dianc neu'n creu risg iechyd a diogelwch eu symud ar unwaith. Os bydd angen, bydd y Cyngor yn symud ac efallai yn cael gwared ar yr eitemau. Bydd rhaid ad-dalu unrhyw gostau symud.
Drysau tân, yn cynnwys drysau ffrynt i gartrefi unigol
Mae drysau tân yn bwysig i atal neu oedi lledaeniad tân.
- Dylid cadw drysau tân ar gau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Ni ddylai preswylwyr, eu contractwr neu westeion addasu, newid neu ymyrryd, na gwneud unrhyw newidiadau, i'r drysau neu'r dyfeisiau hunan-gau
- Dylai preswylwyr rhoi gwybod am unrhyw namau neu ddifrod gyda drysau ar unwaith i powys-repairs@powys.gov.uk neu 01597 827464
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau