Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Arddangosfa David Jones

DVJ Estate of David Jones (Bridgeman Copyright)

7 Mehefin 2023

DVJ Estate of David Jones (Bridgeman Copyright)
Roedd David Jones yn un o artistiaid-awduron mawr yr ugeinfed ganrif. Bydd amgueddfa yn ne Powys yn cynnal arddangosfa fawr yr haf hwn i ddathlu ei waith.

Yn cynnwys tua 70 o baentiadau a darluniau, mae'r Gaer, Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, wedi creu arddangosfa sy'n canolbwyntio ar waith yr artist yn y Mynyddoedd Du yn ystod y 1920au, ychydig o flynyddoedd yn unig ar ôl ei brofiadau dinistriol yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd yr arddangosfa, a fydd yn cynnwys darnau o'r Tate, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chasgliadau preifat - llawer nas gwelwyd yn gyhoeddus o'r blaen - yn rhedeg o 1 Gorffennaf tan 29 Hydref.

Wrth galon yr arddangosfa bydd darluniau a phaentiadau a wnaed yn ystod cyfnod David Jones yng Nghapel-y-ffin, pan drawsnewidiodd tirwedd yr ucheldir ei waith. Disgrifiodd fel 'dechreuad newydd'. Yn ddiweddarach, daeth yn adnabyddus am ei ysgrifennu yn ogystal â'i gelfyddyd. Ystyriwyd ei gerdd epig am y Rhyfel Byd Cyntaf, In Parenthesis, yn waith athrylith.

Dywedodd Cyng David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Mae'n wych gweld y bydd arddangosion fel hyn i'w gweld yn amgueddfeydd ac orielau Powys.

"Roedd tirweddau'r Mynyddoedd Du a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn adlewyrchiad clir i'r darnau yn yr arddangosfa hon, ac mae'n wych ein bod yn gallu eu harddangos yn Aberhonddu i lawer eu gweld.

"Mae croeso mawr i drigolion Powys ac ymwelwyr â'r sir i gael golwg a gweld beth sydd gan yr arddangosfa i'w chynnig."

Dywedodd curadur yr arddangosfa, Dr Peter Wakelin: 'Roedd olrhain lluniau David Jones o'r Mynyddoedd Du yn dasg i dditectif. Gwerthwyd y rhan fwyaf i gasglwyr awyddus a'u gwasgaru cyn gynted ag y'u gwnaed. Nid yw llawer yr ydym yn dod â nhw yn ôl i'r ardal bellach wedi'u dangos yn gyhoeddus ers y 1920au. Rwy'n teimlo'n freintiedig i fod wedi cael cais i helpu gyda'r prosiect gan Gyngor Sir Powys ac Ymddiriedolaeth Gelf Brycheiniog, sy'n ei gefnogi'n hael.'

Ar agor bob dydd, 1 Gorffennaf i 29 Hydref, 10am i 4pm, mynediad am ddim.

Am ragor o wybodaeth, ewch i, Amgueddfa'r Gaer, Stryd Morgannwg, Aberhonddu, LD3 7DW, neu cysylltwch â,

E-bost: ygaer@powys.gov.uk  

Ffôn: 01874 623 346 

 

Credyd Ffoto: Bridgeman Images