Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pwy yw'r Gofalwyr Maeth?

Mae Gofalwyr Maeth yn unigolion, cyplau neu deuluoedd sy'n agor eu cartrefi i blant sydd am wahanol resymau, yn methu byw gyda'u teuluoedd eu hunain.  Nid ydynt yn ceisio cymryd eich lle a byddant yn gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol a chithau i sicrhau bod eich plentyn yn derbyn gofal da a'n bod yn ateb eu anghenion.  Mae rhai Gofalwyr Maeth yn cynnig gofal llawn amser ac eraill yn gwneud hynny'n rhan amser - neu ofal seibiant, er mwyn rhoi seibiant byr i deuluoedd. 

Family holding hands on beach

Mae pob gofalwr maeth yn mynd trwy proses asesu drwyadl.  Mae hyn yn cynnwys cofnodion troseddol, archwiliadau meddygol a gwiriadau gan yr awdurdod lleol a geirdaon ysgrifenedig.  Mae pob gofalwr maeth yn cael eu cymeradwyo gan reoliadau'r Gwasanaeth Maethu a bydd eu gwasanaeth yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan Banel Maethu annibynnol.  Dim ond pan fyddwn yn hyderus y gallant gynnig cartref diogel a chariadus i blentyn y gwnawn eu cymeradwyo fel Gofalwyr Maeth.  

Mae Gofalwyr Maeth yn derbyn hyfforddiant trylwyr a bydd gan bob Gofalwr Maeth Weithiwr Cymdeithasol fydd yn ymweld yn aml i'w cefnogi a'u cynghori a sicrhau bod popeth yn mynd yn dda.  Bydd Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn hefyd yn ymweld a sicrhau bod eich plentyn yn hapus.  Bydd gan eich plentyn ei ystafell wely ei hun heblaw eu bod yn ifanc iawn, neu'n rhannu gyda brawd neu chwaer os oes well ganddynt rannu.

Mae disgwyl i ofalwyr maeth gynnig lefel uchel o ofal i'ch plentyn a sicrhau cartref cynnes, cariadus a chlyd i'ch plentyn dros eu cyfnod yno.  Dylent rannu unrhyw wybodaeth am eich plentyn gyda Gwasanaethau Cymdeithasol ac ni allant gadw cyfrinachau na chytuno i gadw unrhyw wybodaeth i'w hunain yr ydych chi'n eu datgelu iddyn nhw. Mae disgwyl iddyn nhw weithio gyda chi, gyda Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn ac unrhyw weithwyr proffesiynol eraill sy'n rhan o fywyd eich plentyn.  Bydd penderfyniadau am eich cysylltiad chi'n cael ei benderfynu rhyngoch chi a Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn.

 

Cyswllt

  • Ebost: fostering@powys.gov.uk
  • Ffôn:: 0800 22 30 627
  • Cyfeiriad: Y Park, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ  (Gogledd)
  • Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR (De)

Rhowch sylwadau am dudalen yma