Mae Freedom Leisure ym Mhowys yn cefnogi ymgyrch Wythnos Genedlaethol Atal Boddi
12 Mehefin 2023
Gyda llawer ohonom yn dewis gwyliau gartref unwaith eto eleni, mae Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU (RLSS UK), yn ofni y bydd teuluoedd yn heidio i draethau a lleoliadau dŵr mewndirol yr haf hwn, heb ystyried y peryglon posibl, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl. Neu i'r rhai ohonom a fydd yn mentro dramor ar gyfer ein gwyliau haf, efallai y byddant yn defnyddio pyllau heb achubwyr bywyd ac felly mewn perygl os nad oes ganddynt y sgiliau diogelwch dŵr angenrheidiol.
Mae ffigurau'n dangos bod tua 25 y cant o ddisgyblion cynradd yn gadael yr ysgol yn methu â nofio, ac mae arbenigwyr yn ofni, o ganlyniad i'r pandemig, bod llawer o bobl ifanc heb y gallu i nofio neu hunan-achub.
Mae Freedom Leisure ym Mhowys yn cefnogi ymgyrch Wythnos Genedlaethol Atal Boddi RLSS UK, a gynhelir eleni rhwng 17-24 Mehefin 2023. Gallwch gael mwy o wybodaeth am eu rhaglen dysgu nofio trwy alw heibio i'r ganolfan neu gyrchu https://bit.ly/3OXspHe
Nod Wythnos Atal Boddi yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i bawb ledled y DU ac Iwerddon i wneud y penderfyniadau cywir am ddiogelwch dŵr. Mae dros 300 o bobl yn boddi'n ddamweiniol yn y DU ac Iwerddon bob blwyddyn ac mae llawer mwy yn dioddef anaf, sydd weithiau'n newid bywyd, pan fyddant yn goroesi boddi.
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure ar gyfer Gogledd Cymru: "Rydym yn falch bod gennym ran i sicrhau bod ein teuluoedd yn cael haf diogel. Rydym yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw hi i blant wybod sut i aros yn ddiogel ger dŵr, ac yn annog rhieni i gael mynediad i adnoddau diogelwch dŵr rhad ac am ddim RLSS UK ar wefan yr elusen. Rydym eisiau i blant fwynhau'r holl hwyl a buddion o fod yn y dŵr ac o'i gwmpas ond yn cael eu haddysgu ynghylch sut i wneud hynny'n ddiogel."
Dywedodd Cyfarwyddwr Elusen Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd y DU, Lee Heard: "Dylai dyfrffyrdd hardd y DU fod yn lleoedd lle mae pawb yn teimlo'n gartrefol, ac yn gallu cael pleser o'u hamgylchoedd, beth bynnag y bo eu hoedran, beth bynnag y bo lefel eu gweithgaredd. Ond rydym yn annog pobl i addysgu eu hunain ac eraill ynghylch sut i fwynhau dŵr yn ddiogel, ac atal diwrnod allan llawn hwyl sy'n dod i ben mewn trasiedi.
"Mae ymgyrch Wythnos Atal Boddi yn hollbwysig eleni. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pobl ifanc wedi colli allan ar y cyfle hanfodol i nofio, gan adael bwlch dramatig mewn addysg nofio yn yr ysgol a diogelwch dŵr. "Mae RLSS UK yn credu, trwy addysg a hyfforddiant hygyrch am ddim, y gall pawb fwynhau dŵr yn ddiogel. Rydym yn annog cynifer o rieni â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgyrch, defnyddio ein hadnoddau ar-lein rhad ac am ddim, a rhoi'r sgiliau i'w plant fwynhau oes o hwyl yn y dŵr." Ewch i www.rlss.org.uk i gael mynediad i adnoddau diogelwch dŵr rhad ac am ddim yr elusen.