Digwyddiad recriwtio i ddiwallu'r pwysau cynyddol mewn gofal cymdeithasol
14 Mehefin 2023
Bydd diwrnod recriwtio yn digwydd ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 ar gyfer recriwtio gweithwyr gofal a chymorth a helpu i leihau'r pwysau ar y sector iechyd a gofal.
Dywedodd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Efallai nad ydych chi'n meddwl bod gofal cymdeithasol ar eich cyfer chi, ond os ydych chi'n mwynhau cysylltu â phobl ac am gefnogi pobl i adael yr ysbyty cyn gynted ag y maen nhw'n well i fynd i fan o'u dewis nhw - efallai ei fod e! Roeddwn i'n weithiwr cymorth am 30 mlynedd. Mae'n swydd sy'n gallu bod yn heriol yn aml, ond mae hefyd yn un sy'n eich bodloni.
Os ydych chi'n meddwl am ddechrau gyfra newydd neu ddychwelyd at weithio'n llawn amser neu ran amser, galwch heibio i siarad â ni - ac â'n cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r Academi Iechyd a Gofal, a fydd gyda ni drwy'r dydd.
Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion o dan bwysau anferthol a pharhaus. Mae angen help ar fwy a mwy o bobl i fod yn eu cartrefi. Byddwch chi'n gwneud gwir wahaniaeth i ansawdd bywyd pobl a chwarae rôl gwirioneddol wrth leihau'r pwysau anhygoel sydd ar ofal cymdeithasol yn ein gwlad."
Os oes diddordeb gennych ddarganfod rhagor am sut y gallwch helpu, dewch draw i'r diwrnod agored recriwtio ddydd Mercher 5 Gorffennaf 2023 yn Hafan Yr Afon, Y Drenewydd, 10.00-6.30pm.
Rydym ni'n cynnig cyfle unigryw i wneud cais am gyfweliad ar y dydd. Gallech chi gerdded i ffwrdd â chynnig amodol am swydd.
I ddarganfod rhagor am y digwyddiad ewch i: cy.powys.gov.uk/DiwrnodRecriwtioAgored