Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth alla'i ei wneud i helpu fy mhlentyn setlo gyda'r Gofalwr Maeth?

Bydd y Gofalwyr Maeth yn awyddus i helpu eich plentyn setlo ar ol iddynt gyrraedd.  Gallwch chi helpu trwy roi gwybodaeth am eich plentyn: beth mae nhw'n ei hoffi neu'n ei gasau, diwylliant a chrefydd, arferion bob dydd, ffrindiau, ysgol, digwyddiadau pwysig, hobiau, alergeddau ac iechyd.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw rhoi cyfle i'r plant fynd a rhai teganau neu ddillad arbennig gyda nhw i gartref y Gofalwyr

Children with a dog
Maeth.  Gofynnwn i chi siarad a Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn i benderfynu sut orau i baratoi eich plentyn cyn symud at y Gofalwyr Maeth.

Pan fydd plentyn yn cael ei gymryd i ofal maeth, bydd rhaid i chi arwyddo ffurflen yn rhoi caniatad i'r Gofalwr Maeth ofyn am driniaeth feddygol i'ch plentyn os bydd angen.  Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi cymaint o wybodaeth a phosibl am iechyd a hanes meddygol eich plentyn - a yw'n cymryd unrhyw feddyginiaeth reolaidd, a oes ganddo unrhyw alergedd neu gyflwr meddygol y dylwn wybod amdano? 

Rydym yn cymryd iechyd y plant sydd mewn gofal maeth o ddifrif.  Yn fuan ar ol derbyn eich plentyn, byddwn yn trefnu apwyntiad meddygol arferol iddo / iddi.  Bydd y Gofalwr Maeth hefyd yn trefnu apwyntiadau eraill (deintydd, ysbyty, optegydd ac ati).

 

 

Cyswllt

  • Ebost: fostering@powys.gov.uk
  • Ffôn:: 0800 22 30 627
  • Cyfeiriad: Y Park, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ  (Gogledd)
  • Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR (De)

Rhowch sylwadau am dudalen yma