Toglo gwelededd dewislen symudol

Symleiddio teithiau bws ar draws Gogledd Cymru

Image of a bus on a rural road

14 Mehefin 2023

Image of a bus on a rural road
Cyflwynwyd cynllun tocyn unigol gyda'r nod o symleiddio teithiau bws ar draws Gogledd Cymru.

Mae'r fenter 1Bws yn caniatáu i deithwyr deithio ledled gogledd Cymru ar docyn unigol ar draws nifer o wasanaethau heb unrhyw gost ychwanegol.  Mae'r gwasanaethau TrawsCymru T12, T2 ac X28 sy'n rhedeg ym Mhowys yn rhan o gynllun 1Bws.

Bydd teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau T12, T2 ac X28 yn gallu manteisio ar gynllun newydd 1Bws, os maent yn defnyddio tocyn undydd unigol i deithio'n ddigyfyngiad ymhellach ar draws Gogledd Cymru.

Yn ogystal mae Tocyn Crwydro Diwrnod Powys dal yn ddilys ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau lleol yn y sir.

Mae un o fentrau eraill Trafnidiaeth Cymru sef 'Tapio ymlaen, Tapio i ffwrdd' yn caniatáu i oedolion ddefnyddio dull talu digyffwrdd er mwyn talu am eu tocyn 1Bws yn rhwydd.  Trwy dapio cerdyn digyffwrdd neu ddyfais ar y peiriant tocynnau wrth fynd ar a gadael y bws, cyfrifir y ffi unigol ar gyfer y daith honno. Wrth wneud nifer o deithiau, bydd trothwy ar y ffi, sy'n sicrhau na fyddan nhw byth yn talu mwy na phris tocyn 1Bws.

Cwmnïau Lloyds Coaches a Tanat Valley Coaches sy'n rhedeg gwasanaeth TrawsCymru T12 ar ran Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Powys. Wrth gyflwyno'r cynllun 1Bws, bydd ffioedd T12 yn cael eu cydlynu i sicrhau fod y ddau gwmni'n codi'r un pris ar gyfer yr un teithiau, ac y gellir defnyddio tocynnau rhwng y ddau gwmni hefyd. Bydd hyn yn golygu y gall nifer fach iawn o ffioedd unigol gynyddu rhywfaint, tra gall eraill ostyng, ond codir yr un ffi fesul milltir ar gyfer pob taith.

"Mae teithio ar fws yn gyfeillgar iawn o safbwynt yr amgylchedd, a gall fod yn ffordd wych i deithio i lefydd gwahanol heb orfod poeni am yrru eich hunan. Trwy deithio ar fws, cewch olygfa o'r newydd ar ein cefn gwlad odidog," meddai'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach.

"Trwy gydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru, darparwyr trafnidiaeth ac awdurdodau cyffiniol, peth gwych yw gallu cynnig i deithwyr Gogledd Powys cyfle i brynu tocynnau dydd yn rhwydd er mwyn darganfod ein sir fendigedig a siroedd eraill gogledd Cymru."

Am ragor o wybodaeth ar brisiau tocynnau, cynllun 1Bws a'r dull talu 'Tapio ymlaen, tapio i ffwrdd', ewch i:  www.cymraeg.traveline.cymru/bus-fares/