Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut alla i gadw mewn cysylltiad gyda fy mhlentyn tra ei fod mewn gofal maeth?

Yn fuan ar ol i'ch plentyn gael ei roi mewn gofal maeth, byddwn yn trefnu cyfarfod i ystyried y trefniadau ar gyfer eich plentyn. 

holding hands

Bydd y cynllun yn cynnwys trefniadau i chi gadw mewn cysylltiad â'ch plentyn.  Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cynnal y berthynas rhyngoch chi â'ch plentyn, yn enwedig os y bwriad yw y bydd ef neu hi'n dychwelyd i fyw atoch.  Efallai byddwch yn gallu siarad â'ch plentyn dros y ffon neu dreulio amser gyda'ch gilydd yn rheolaidd. 

Bydd hyn yn cael ei drefnu a'i gytuno gyda chi.  Mae'n bwysig eich bod yn cadw at y trefniadau er mwyn osgoi achosi ansicrwydd a siom i'ch plentyn.  Ni fydd y cyswllt rhyngoch chi a'ch plentyn yn cael ei gyfyngu neu ei atal oni bai ein bod yn teimlo nad hynny yw'r peth gorau ar gyfer eich plentyn.

Os ydych chi'n ansicr am rywbeth neu angen siarad a rhywun, awgrymwn eich bod yn cysylltu a Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn yn gyntaf.  Dylen nhw fod yn gallu dweud beth sy'n' digwydd a pham.

 

Cyswllt

  • Ebost: fostering@powys.gov.uk
  • Ffôn:: 0800 22 30 627
  • Cyfeiriad: Y Park, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ  (Gogledd)
  • Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR (De)

Rhowch sylwadau am dudalen yma