Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i breswylwyr Tregynon, Llanbrynmair a Cheri gael band eang cyflym iawn

A woman using a laptop and computer mouse

19 Mehefin 2023

A woman using a laptop and computer mouse
Cafodd y cyfle i fwy na 1,000 eiddo mewn tri phentref yng Ngogledd Powys gael mynediad at fand eang cyflym iawn ei groesawu gan y cyngor sir.

Openreach sy'n trefnu'r cynllun ac mae'n ofynnol bod preswylwyr a busnesau yn Nhregynon, Llanbrynmair a Cheri, sydd am gyflymder pori cyflymach, wneud cais am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU a fydd yn cael eu defnyddio i helpu i ariannu estyn ei rwydwaith ffibr llawn.

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Openreach ar gael yma: https://www.openreach.com/news/ultrafast-broadband-chance-for-people-living-in-tregynon-llanbrynmair--kerry-in-powys/

Gall preswylwyr a busnesau yn y tri chymuned wirio a ydynt yn cymhwyso drwy nodi eu cod post ar wefan Openreach:  Cysylltu Fy Nghymuned https://www.openreach.com/connectmycommunity

Ni fydd defnyddio Talebau Gigabit Llywodraeth DU i helpu i dalu am adeiladu yn costio unrhyw beth i breswylwyr a busnesau, ond bydd rhaid iddyn nhw ymrwymo i archebu gwasanaeth ffibr llawn oddi wrth ddarparwr o'u dewis am o leiaf 12 mis pan fydd y rhwydwaith newydd ar gael a chadarnhau bod cyswllt ganddynt.

Mae rhagor o wybodaeth am Dalebau Gigabit Llywodraeth DU yma: https://gigabitvoucher.culture.gov.uk/

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae hwn yn gyfle gwych i gartrefi a busnesau'r tair cymuned hon gael mynediad at rwydwaith ffibr llawn cyflymach sydd yn aml ar gael mewn ardaloedd mwy trefol yn unig.

"Mae cynifer â 1,148 o eiddo yn Nhregynon, Llanbrynmair a Cheri yn gymwys, ond dim ond os fydd digon o bobl yn arwyddo ac addo eu talebau i'r cynllun, y bydd Openreach yn gallu eu cysylltu.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect hwn neu gyfleoedd band eang cyflym iawn eraill ym Mhowys, e-bostiwch: broadband@powys.gov.uk