Powys yn diolch i'r Lluoedd Arfog

20 Mehefin 2023

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i bawb ddangos eu cefnogaeth i'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog.
Bydd dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cychwyn ddydd Llun 19 Mehefin pan fydd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei chodi ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad.
Dywedodd y Cynghorydd Dorrance, sydd hefyd yn Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor ac yn cadeirio Partneriaeth Ranbarthol Cyfamod Lluoedd Arfog Powys: "Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i gydnabod a diolch yn ddiffuant a rhoi chefnogaeth i Luoedd Arfog Prydain.
"Rwy'n hynod falch o'n milwyr — eu gwasanaeth hwy yw'r gwasanaeth cyhoeddus yn y pen draw.
"Mae gan ein Lluoedd Arfog rôl hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau gartref a thramor. Roeddent wedi dangos proffesiynoldeb llwyr gyda'u cefnogaeth ym Mhowys yn ystod y pandemig ac maent yn parhau i fod â rhan hanfodol wrth amddiffyn y DU a'n cynghreiriaid NATO."