Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddiant Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng mewn gwobr adeiladu

Image of Welshpool Church in Wales Primary School

20 Mehefin 2023

Image of Welshpool Church in Wales Primary School
Mae ysgol gynradd arloesol, a adeiladwyd gan Gyngor Sir Powys wedi cipio prif wobr mewn seremoni wobrwyo fawreddog ar gyfer adeiladu yng Nghymru.

Enillodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng, a agorodd ei drysau ym mis Ionawr 2021, Wobr Gwerth yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru 2023.

Caiff y seremoni wobrwyo ei chydnabod ar draws amgylchedd adeiledig Cymru fel dathliad mwyaf a disgleiriaf arferion gorau yng Nghymru, ac fe'i chynhaliwyd ddydd Gwener diwethaf (16 Mehefin) yn y Celtic Manor, Casnewydd.

Roedd adeilad yr ysgol, a gafodd ei adeiladu fel rhan o Raglen Trawsnewid Addysg y Cyngor, wedi cael ei roi ar restr categori'r Wobr Cynaliadwyedd hefyd.

Cafodd yr adeilad ei ddylunio gan Architype (Penseiri) a WSP (Pob Disgyblaeth Peirianneg) a'i adeiladu gan Pave Aways Ltd, a dyma'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf i gael ei hadeiladu gan y cyngor sy'n diwallu safonau effeithlonrwydd ynni trylwyr gofynnol ar gyfer ardystiad Passivhaus.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu o gwmpas ffrâm goed o ffynonellau cynaliadwy yng Nghymru. Mae lefel uwch o inswleiddio gan yr ysgol ac fe'i hadeiladwyd i fod yn aerdyn. Ceir hefyd system adfer gwres ac awyru a phaneli solar ar y to i isafu'r costau rhedeg.

Cafodd y prosiect ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (sef Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif gynt), a'r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Rwyf wrth fy modd fod Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng wedi ennill y wobr fawreddog hon yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru.

"Mae hwn yn gyflawniad disglair a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r adeilad arloesol hwn gan gynnwys yr ysgol ei hun ac Esgobaeth Llanelwy, am y llwyddiant hwn.

"Nid yn unig yw hwn yn gyfleuster ffantastig sy'n galluogi dysgwyr a staff addysgu i gyrraedd eu  potensial ond cafodd ei adeiladu i'r safon uchaf o ran effeithiolrwydd ynni sy'n helpu'r sir i leihau ei hôl-troed carbon."