Sicrhau arian ar gyfer cynllun teithio llesol y Trallwng
23 Mehefin 2023
Cafodd ei ddynodi ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol gan y gymuned fel llwybr a fyddai'n ffurfio cam cyntaf prosiect ehangach i greu rhwydwaith teithio llesol lleol - gan alluogi rhagor o deithiau ar droed neu ar feic yn y dref.
Bydd y llwybr yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol Stryd Hafren, o'r orsaf drenau i'r bont dros y gamlas. Fel rhan o'r prosiect caiff y llwybr presennol ei ledaenu i ddyfod yn llwybr sy'n cael ei rannu gan feicwyr a cherddwyr, a bydd gwelliannau'n cael eu gwneud i'r arwyneb a'r draenio, gan wella diogelwch i'r holl ddefnyddwyr - ond yn enwedig i deuluoedd a disgyblion sy'n mynd yn ôl a blaen i Ysgol Gymraeg y Trallwng a chymudwyr sy'n defnyddio'r orsaf drenau.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir fod yn rhaid i deithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau byr bob dydd, neu fel rhan o daith hirach gan gyfuno dulliau cynaliadwy eraill, a bydd y buddsoddiad parhaus i lwybrau teithio llesol ymarferol ym Mhowys, yn ein helpu ni i wireddu'r weledigaeth hon." Dywed y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Nid yn unig yw'r llwybrau hyn yn gwella diogelwch cerddwyr a beicwyr ar y ffordd, ond maen nhw hefyd yn darparu'r cyfle i ni gynyddu ein hiechyd a'n llesiant drwy fod yn fwy actif, yn ogystal â chyfrannu at leihau allyriadau ac at y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd cyfredol drwy ein galluogi ni i flaenoriaethu cerdded a seiclo yn hytrach na defnyddio'r car ar gyfer teithiau byr, lleol."
Caiff y cynghorydd lleol ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel, y Cynghorydd Richard Church ei galonogi gan yr holl welliannau sy'n cael eu cynllunio i'r ardal. "Mae llawer yn digwydd o gwmpas Stryd Hafren a fydd yn denu rhagor o bobl i'r ardal. Y Cartref Gofal Ychwanegol newydd yn Neuadd Maldwyn, yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd a'r gwaith o wella'r llyfrgell a'r amgueddfa ger y gamlas. Bydd y gwelliannau hyn ynghyd â datblygiad darpariaeth teithio llesol, yn ei wneud yn llwybr diogel i bobl hen ac ifanc fel ei gilydd, drwy gysylltu'r cyfleusterau newydd hyn â chanol y dref a'r orsaf reilffordd."