Am faint fydd fy mhlentyn mewn gofal maeth?
Bydd cyfle i chi rannu gwybodaeth am eich plentyn ac i glywed beth sydd ar y gweill iddynt. Bydd eich plentyn gallu rhoi barn a gallant gael eiriolwr i'w helpu gyda hyn.
Ar adegau, prif nod maethu yw rhoi seibiant i deulu plentyn rhag gofalu a'r nod yw dod â nhw nol at ei gilydd mor gyflym a phosibl. Byddwch yn gweithio gyda Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn i gynllunio ar gyfer pan ddaw'r plentyn adref a bydd y Gofalwr Maeth yn eich helpu yn hyn o beth.
Os nad yw'n bosibl i'ch plentyn ddod adref, bydd y Gofalwr Maeth yn edrych ar ei ol tan i ni wneud cynlluniau parhaol.
Os yw eich plentyn yn aros dros dro gyda'r Gofalwr Maeth (seibiant), bydd y trefniadau'n cael eu adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod eich plentyn yn hapus a bod y seibiant yn helpu pawb yn y teulu. Mae'n bosibl y bydd trefniadau seibiant ar gael am gyfnod penodol er mwyn eich helpu chi a'r teulu trwy gyfnod anodd, neu i chi gael egwyl o ofalu ac i roi seibiant byr i'ch plentyn o'r teulu.
Dwi ddim yn hapus gyda'r gofal mae fy mhlentyn yn ei dderbyn
Y peth gorau yw ceisio siarad â Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn a'r Gofalwr Maeth am unrhyw bryderon sydd gennych er mwyn ceisio eu datrys. Yn aml iawn, y pethau bach sy'n gallu creu trafferth ac achosi dig. Gall fod yn hawdd datrys y pethau hyn. Os nad ydych hi'n meddwl y gallwn eu datrys fel hyn, gallwch siarad yn uniongyrchol â rheolwr Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn.
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y gofal y mae eich plentyn yn ei dderbyn ac yn teimlo nad yw'n bosibl ei ddatrys mewn ffordd llai ffurfiol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn yn y fan yma
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma