Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Am faint fydd fy mhlentyn mewn gofal maeth?

Family
Mae hwn yn gwestiwn anodd gan fod pob sefyllfa'n wahanol.  Mae'n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad a Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn a thrafod hyn gyda nhw.  Trwy gydol cyfnod eich plentyn mewn gofal maeth, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd (adolygiadau) er mwyn sicrhau bod y cynllun i'ch plentyn yn dal i weithio ac i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn sicrhau ein bod yn ateb anghenion eich plentyn.  Byddwn yn eich gwahodd chi a'ch plentyn (os yw'n ddigon hen) i'r cyfarfod hwn, ynghyd a phobl eraill (megis y Swyddog Adolygu Annibynnol, Gweithiwr Cymdeithasol ac athro).  

Bydd cyfle i chi rannu gwybodaeth am eich plentyn ac i glywed beth sydd ar y gweill iddynt.  Bydd eich plentyn gallu rhoi barn a gallant gael eiriolwr i'w helpu gyda hyn.

Ar adegau, prif nod maethu yw rhoi seibiant i deulu plentyn rhag gofalu a'r nod yw dod â nhw nol at ei gilydd mor gyflym a phosibl.  Byddwch yn gweithio gyda Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn i gynllunio ar gyfer pan ddaw'r plentyn adref a bydd y Gofalwr Maeth yn eich helpu yn hyn o beth.

Os nad yw'n bosibl i'ch plentyn ddod adref, bydd y Gofalwr Maeth yn edrych ar ei ol tan i ni wneud cynlluniau parhaol.

Os yw eich plentyn yn aros dros dro gyda'r Gofalwr Maeth (seibiant), bydd y trefniadau'n cael eu adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod eich plentyn yn hapus a bod y seibiant yn helpu pawb yn y teulu.  Mae'n bosibl y bydd trefniadau seibiant ar gael am gyfnod penodol er mwyn eich helpu chi a'r teulu trwy gyfnod anodd, neu i chi gael egwyl o ofalu ac i roi seibiant byr i'ch plentyn o'r teulu.

 

Dwi ddim yn hapus gyda'r gofal mae fy mhlentyn yn ei dderbyn

Y peth gorau yw ceisio siarad â Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn a'r Gofalwr Maeth am unrhyw bryderon sydd gennych er mwyn ceisio eu datrys.  Yn aml iawn, y pethau bach sy'n gallu creu trafferth ac achosi dig.   Gall fod yn hawdd datrys y pethau hyn.  Os nad ydych hi'n meddwl y gallwn eu datrys fel hyn, gallwch siarad yn uniongyrchol â rheolwr Gweithiwr Cymdeithasol eich plentyn.

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y gofal y mae eich plentyn yn ei dderbyn ac yn teimlo nad yw'n bosibl ei ddatrys mewn ffordd llai ffurfiol, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn yn y fan yma 

 

 

Cyswllt

  • Ebost: fostering@powys.gov.uk
  • Ffôn:: 0800 22 30 627
  • Cyfeiriad: Y Park, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ  (Gogledd)
  • Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR (De)

Rhowch sylwadau am dudalen yma