Toglo gwelededd dewislen symudol

Annog pobl Powys i wybod mwy am waith gofalwyr Cysylltu Bywydau

Two people smiling and laughing

26 Mehefin 2023

Two people smiling and laughing
Mae pobl sy'n byw ym Mhowys gydag ystafell sbâr a diddordeb mewn gofalu am ein cymunedau yn cael eu hannog i wybod mwy am waith gofalwyr Cysylltu Bywydau.

Mae'r wythnos hon (26-30 Mehefin) yn Wythnos Cysylltu Bywydau a bydd Cyngor Sir Powys yn codi ymwybyddiaeth o Gysylltu Bywydau a dathlu gofalwyr Cysylltu Bywydau sy'n cefnogi oedolion sy'n agored i niwed i fyw bywydau llewyrchus ac annibynnol.

Y cyngor sy'n rheoli'r gwasanaeth Cysylltu Bywydau lle bydd pobl yn gallu gofyn am gefnogaeth a datblygu eu hannibyniaeth.

Bydd pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn byw gyda, neu'n ymweld â gofalwyr Cysylltu Bywydau, sy'n agor eu cartrefi a'u calonnau iddynt a'u helpu i fyw eu bywydau fel y mynnant.

Os hoffech wybod rhagor am y gwasanaeth Cysylltu Bywydau, bydd aelodau o'r tîm ar gael yn y lleoliadau canlynol yn ystod yr wythnos:

  • Dydd Llun 26 Mehefin - 10am - 3pm - Morrisons, Aberhonddu
  • Dydd Mawrth 27 Mehefin - 10am - 3pm - Tesco, Y Drenewydd
  • Dydd Iau 29 Mehefin - 10am - 3pm - Tesco, Llandrindod
  • Dydd Gwener 30 Mehefin - 10am - 3pm - Tesco, Y Trallwng

Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Bob blwyddyn, Wythnos Cysylltu Bywydau yw'r adeg pan fyddwn yn dathlu gwaith anhygoel gofalwyr Cysylltu Bywydau a chyraeddiadau gwych y bobl dan eu gofal.

"Bydd gan bobl sy'n byw neu'n aros gyda gofalwyr Cysylltu Bywydau cartref lle maen nhw'n gwybod eu bod yn perthyn ac yn gwneud dewisiadau go iawn am sut y maen nhw eisiau byw.

"Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau'n rhannu eu cartrefi a'u hamser gyda phobl sydd angen gofal a chymorth, gan roi help llaw iddyn nhw gyflawni eu nod mewn bywyd ac i fyw y bywyd y maen nhw am eu byw.

"Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am ofalwyr Cysylltu Bywydau newydd. Ai chi yw hwnnw?  Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn cynnig gwahanol fathau o gymorth, o gartrefi tymor hir i seibiant byr a chymorth sesiynol.  Bydd gofalwyr Cysylltu Bywydau'n derbyn cymorth a hyfforddiant parhaus, ac yn derbyn lwfans cyson am eu gwaith.

"Os oes gennych chi ddiddordeb ac os hoffech wybod mwy, bydd ein tîm Cysylltu Bywydau yn falch iawn o gwrdd â chi, yn unrhyw un o'r pedwar lleoliad ar draws y sir yr wythnos hon neu gallwch gysylltu trwy anfon e-bost neu ffonio; pa bynnag ffordd sydd orau i chi, cofiwch gysylltu."

I wybod mwy, cysylltwch â'r tîm Cysylltu Bywydau ar shared.lives@powys.gov.uk neu ffonio 01597 827247.