Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun prynu'n ôl i brynu eiddo oedd yn dai cyngor

Image of a house

26 Mehefin 2023

Image of a house
Bydd cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu mwy o gartrefi i'w rhentu ym Mhowys yn cael eu cefnogi gan gynllun a allai weld y cyngor yn prynu tai oedd yn cyn eiddo hawl i brynu.

Bydd y cynllun prynu'n ôl yn helpu Cyngor Sir Powys i gyflawni ei raglen pum mlynedd 'Gartref ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai', a fyddai'n gweld y cyngor yn darparu mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol.

Mae'r cynllun yn ffordd effeithiol o ychwanegu at stoc bresennol y cyngor o gartrefi i'w rhentu a bydd yn helpu i leddfu'r pwysau cynyddol ar nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael i'w rhentu ym Mhowys.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae gan y cyngor gynllun uchelgeisiol i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yn y sir.

"Diolch i Lywodraeth Cymru, mae cynghorau yng Nghymru unwaith eto yn gallu adeiladu mwy o gartrefi a phrynu cyn tai cyngor yn ôl.

"Bydd ein cynllun prynu'n ôl yn ein galluogi i brynu tai cyngor a werthwyd yn flaenorol fel rhan o'r rhaglen Hawl i Brynu.

"Drwy brynu'r tai hyn oedd yn cyn eiddo hawl i'w prynu ac adeiladu tai cyngor newydd, nid yn unig rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu mwy o dai cymdeithasol i fodloni anghenion ein preswylwyr ond rydym hefyd yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i Bowys."

Os ydych chi'n berchen ar gyn eiddo hawl i brynu ym Mhowys ac yn edrych i werthu ac wedi cael prisiad annibynnol o'r eiddo, yna hoffai'r cyngor glywed gennych.

Anfonwch e-bost at affordable.housing@powys.gov.uk gyda gwybodaeth am eich eiddo i gael gwybod mwy am y cynllun prynu'n ôl.