Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng yn ennill ail wobr

Image of Welshpool Church in Wales Primary School

26 Mehefin 2023

Image of Welshpool Church in Wales Primary School
Mae ysgol gynradd arloesol ym Mhowys wedi ennill gwobr arall, yr ail o fewn wythnos.

Yr wythnos diwethaf, (dydd Iau 22 Mehefin) cyhoeddwyd bod Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng wedi ennill gwobr Arloesol o ran Cyflenwi Cyfleusterau Addysg Cynaliadwy yn seremoni Gwobrwyon Adeiladau Addysg Cymru 2023. Mae'r gwobrwyon hyn yn cydnabod rhagoriaeth o ran dylunio ac adeiladu ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.

Enillodd yr ysgol arobryn, a agorodd ym mis Ionawr 2021, y Wobr Gwerth yng Ngwobrwyon Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru 2023, yn gynharach yn y mis.

Yr adeilad, a ddyluniwyd gan Architype (Penseiri) a WSP (Engineering all Disciplines) ac a adeiladwyd gan Pave Aways Ltd ar ran Cyngor Sir Powys yw'r ysgol gynradd Passivhaus gyntaf a adeiladwyd gan y cyngor, ac mae'n bodloni'r safonau effeithlonrwydd ynni cadarn sydd eu hangen ar gyfer ardystiad Passivhaus. Cafodd yr ysgol ei hadeiladu fel rhan o Raglen Trawsnewid Addysg y Cyngor.

Cafodd ei hadeiladu o gwmpas ffrâm bren o ffynonellau cynaliadwy yng Nghymru, mae gan yr ysgol lefel insiwleiddio uwch ac fe'i hadeiladwyd i sicrhau ei fod yn aerdynn. Hefyd mae yno system adfer gwres ac awyru, a phaneli solar ar y to i gadw'r costau rhedeg mor isel â phosibl.

Cyllidwyd y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru trwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (sef Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt), a'r cyngor.

Dywed y Cyng Pete Roberts, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn gyrhaeddiad campus, ac rwyf wrth fy modd fod Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Y Trallwng wedi ennill y wobr nodedig hon.

"Ni fyddai'r prosiect arloesol hwn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru, ein partneriaid, arweinyddion yr ysgol ac Esgobaeth Llanelwy. Diolch i'w cyfraniadau a'u hymdrechion nhw yr enillwyd y wobr hon.

"Mae'r ysgol flaenllaw hon yn caniatáu i ddysgwyr a staff dysgu gyrraedd eu potensial, ond cafodd ei hadeiladu i'r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf posibl, sy'n helpu'r sir i leihau ei ôl-troed carbon."