Bydd treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr Aberhonddu'n cychwyn ym mis Gorffennaf
29 Mehefin 2023
Ei ddiben yw profi sut y gellir defnyddio technoleg ddigidol i annog mwy o ailgylchu, a bydd y treial 12 wythnos - Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn dechrau'r mis nesaf; bydd pecynnau croeso yn cyrraedd trigolion Aberhonddu gyda'r post o 13 Gorffennaf.
Bydd y pecyn croeso'n cynnwys popeth sydd ei angen i gychwyn y treial, gan gynnwys llythyr o eglurhad, taflen wybodaeth a sticeri i'w gosod ar flychau ailgylchu'r aelwyd.
Bydd trigolion sy'n cymryd rhan yn y treial yn gallu hawlio gwobrwyon ariannol drwy sganio cynwysyddion diodydd gyda labeli unigryw gan ddefnyddio ffonau symudol, cyn eu hailgylchu gartref, trwy'r casgliad ailgylchu arferol wrth ochr y ffordd, neu drwy ddefnyddio mannau dychwelyd amrywiol o gwmpas y dref.
Bydd y cynwysyddion diodydd gyda labeli unigryw ar gael i'w prynu gan lawer o siopau yn Aberhonddu, ac mae rhestr lawn o'r manwerthwyr sy'n rhan o'r cynllun a lleoliadau'r mannau ailgylchu, ar gael ar-lein.
Eglura'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach "O 13 Gorffennaf, bydd pob aelwyd cymwys yn Aberhonddu'n dechrau derbyn eu pecynnau croeso ar gyfer treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr trwy'r post.
"Er taw treial hollol wirfoddol yw hwn, ein gobaith yw y bydd cymaint o bobl â phosibl yn ymuno yn y cynllun ac yn elwa o'r gwobrau ariannol sydd ar gael. Ar gyfer pob cynhwysydd sy'n cael ei sganio a'i ailgylchu yn y ffordd gywir, bydd cyfranogwyr yn cael dewis derbyn yr 'arian' neu ei roi i Fanc Bwyd Aberhonddu ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, y ddwy elusen leol a enwebwyd gennym.
"Bydd y treial hwn yn ein helpu deall hoff opsiynau pobl o ran ailgylchu'r cynwysyddion diodydd hyn, a'n helpu i ddysgu rhagor ynghylch arferion ailgylchu. Hwn fydd y tro cyntaf unrhyw le trwy'r byd y bydd tref gyfan yn defnyddio'r dechnoleg newydd yma, a byddwn yn dadansoddi'r canlyniadau, ac yn eu rhannu gyda gweddill y DU, a thrwy hynny rhoi Aberhonddu ar flaen yr ymgyrch ailgylchu arloesol hwn.
"I'r sawl sy'n byw yn Aberhonddu sydd am ddysgu rhagor am dreial Sganio|Ailgylchu|Gwobr, cynhelir sesiwn taro heibio yn Y Gaer ddydd Mawrth 18 Gorffennaf rhwng 10am - 5pm. Estynnir croeso cynnes i bawb."
Dywed y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, "Rwyf yn ddiolchgar i Gyngor Sir Powys a Chynghrair y Cynllun Dychwelyd Blaendal Digidol (DDRS) sydd wedi arwain datblygu a gweithredu'r treial hwn. Yn anad dim, diolch yn fawr i drigolion Aberhonddu, oherwydd bydd eu cyfraniad a'u hymgysylltiad nhw yn sicrhau fod y cynllun peilot hwn yn llwyddiant ac yn brofiad dysgu hynod werthfawr, fydd yn helpu rhoi'r cynllun ar waith ledled Cymru.
"Wrth ymrwymo i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd, ein nod yw nid yn unig cynyddu cyfradd ailgylchu Cymru fel cam gweithredu allweddol o ran mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd sicrhau gwelliant sylweddol mewn ailgylchu wrth fynd, a mynd i'r afael â sbwriel poteli a chaniau yn ein cymunedau. Bydd y treial yn bwysig er mwyn deall a phrofi sut i weithredu cynllun digidol mewn cymuned bresennol, a bydd yn casglu gwybodaeth ar ymateb defnyddwyr a sut y gellir defnyddio technoleg arloesol wrth redeg DRS."
Cynghrair DDRS sy'n arwain y treial, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, WRAP Cymru, Cyngor Sir Powys a manwerthwyr lleol.
Ceir rhagor o wybodaeth ar dreial Sganio|Ailgylchu|Gwobr, gan gynnwys canllawiau ar sut i gymryd rhan, rhestr siopau sy'n cymryd rhan a manylion yr holl fannau ailgylchu, ar-lein yma: Sganio | Ailgylchu | Gwobr
Sesiwn taro heibio Sganio|Ailgylchu|Gwobr
Cyfle i ddysgu sut i fod yn rhan o'r treial ac ennill gwobrwyon am ailgylchu.
Ble: y Gaer
Pryd: Dydd Mawrth 18 Gorffennaf, 10am - 5pm