Toglo gwelededd dewislen symudol

Angen tystiolaeth o'ch cyfeiriad wrth ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Cwmtwrch Isaf

Image of someone showing proof of address

28 Mehefin 2023

Image of someone showing proof of address
Gofynnir i drigolion yn ne'r sir ddod â thystiolaeth o'u cyfeiriad wrth ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Cwmtwrch Isaf.

Bu gofyn darparu tystiolaeth o'ch cyfeiriad ar gyfer holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartefi Powys erioed, ond tan yn ddiweddar, anaml iawn y gofynnwyd amdani. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau fod y safle ar gael i ymwelwyr cymwys, bellach bydd gofyn i ailgylchwyr ddarparu tystiolaeth o'u cyfeiriad i sicrhau eu bod yn cael mynediad at y cyfleusterau.

Oherwydd lleoliad y ganolfan ar y ffin sirol, mae cytundeb yn bodoli gyda'r awdurdod cyffiniol, Cyngor Castell Nedd Port Talbot, y gall eu trigolion nhw, ar y cyd â thrigolion Powys ddefnyddio'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yng Nghwmtwrch Isaf.

"Deallwn pa mor bwysig yw ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gyfer trigolion, ac rydym yn awyddus i sicrhau fod pawb yn cael mynediad rhwydd atynt, pan fo angen," eglura'r Cyng.  Jackie Charlton, Aelod y Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae rhedeg y math yma o gyfleusterau cymunedol ar ffiniau sirol yn ddyrys, ac er bod gennym gytundeb i drigolion Castell Nedd Port Talbot aillgylchu ar safle Cwmtwrch Isaf, nid oes gennym gytundeb tebyg gydag eraill sy'n byw mewn siroedd cyfagos eraill.

"Pan ddefnyddir arian trethdalwyr i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn, mae'n hollbwysig sicrhau eu bod ar gael i drigolion cymwys gael mynediad atynt, ac nad yw pobl eraill yn achosi tagfeydd ynddynt. Gwyddom ei fod yn boen gorfod dangos tystiolaeth o'ch cyfeiriad, ond mae'n golygu y gallwn sicrhau fod y gwasanaethau lleol hyn ar gael i bobl leol."

Gall tystiolaeth o'ch cyfeiriad gynnwys: trwydded yrru, bil treth y cyngor, cyfriflen banc, neu fil cyfleustodau. Mae rhagor o wybodaeth am Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref ar gael ar-lein: Canolfannau Ailgylchu

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu