Toglo gwelededd dewislen symudol

Adolygiad Hamdden Powys

Icons of various sports with 'Dweud eich Dweud' and 'Have your say' in speech bubbles

3 Gorfennaf 2023

Icons of various sports with 'Dweud eich Dweud' and 'Have your say' in speech bubbles
Mae adolygiad trylwyr o gyfleoedd a gwasanaethau hamdden y sir wedi dechrau, dywedodd y cyngor sir.

Mae'r adolygiad yn ystyried y ddarpariaeth, defnydd, costau rhedeg, allyriadau carbon a chyflwr yr adeiladu sydd ar gynnig ar hyn o bryd, yn ogystal â'r cyfleoedd hamdden actif eraill sydd ar gael i bobl Powys.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus: "Er mwyn ehangu'r data cyfranogiad a'r data ariannol sydd gennym eisoes, gofynnwn am eich barn i'n helpu llunio cynnig hamdden cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r arolwg hwn yn llunio rhan o ymgysylltiad cyhoeddus ledled y sir i roi'r cyfle i gynifer o bobl ag sy'n bosibl i gyflwyno'u safbwyntiau a'u syniadau ynghylch gwella a chefnogi ein cyfleusterau hamdden.

"Rwyf yn annog cynifer o bobl ag sy'n bosibl i ddweud eu dweud yn y rhan bwysig hon o'n hadolygiad hamdden."

Am ragor o fanylion am yr adolygiad ac i gymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu ar-lein ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/adolygiad-hamdden-powys-2023

Mae copïau papur o'r arolwg ar gael i chi eu casglu o'ch llyfrgell leol ac ar ôl i chi eu cwblhau gallwch eu rhoi yn ôl i'r staff mewn Canolfan Hamdden Freedom neu Lyfrgell ym Mhowys, neu gallwch sganio ac yna e-bostio:  haveyoursay@powys.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw Dydd Llun 28 Awst 2023.