Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Gwobrau i staff sy'n helpu i gadw preswylwyr Powys yn ddiogel

Powys County Council staff who were nominated and their supporters at the Mid and West Wales Regional Safeguarding Board’s annual awards ceremony

4 Gorffennaf 2023

Powys County Council staff who were nominated and their supporters at the Mid and West Wales Regional Safeguarding Board’s annual awards ceremony
Mae dau aelod o staff Cyngor Sir Powys wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes am eu gwaith yn diogelu plant mewn perygl.

Cafodd yr acoladau eu cyflwyno yng ngwobrau blynyddol Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cafodd trydydd aelod o staff gymeradwyaeth uchel hefyd am ei gwaith yn casglu barn arddegwyr Powys am fentrau newydd gofal cymdeithasol ac iechyd.

Rhoddwyd Gwobrau Gwasanaeth Hir / Cyflawniad Oes i Claire Williams, Swyddog Dysgu a Datblygiad Ymarfer ac i Andrea Roberts, Swyddog Adolygu Annibynnol.

Mae Claire wedi bod yn weithiwr gofal cymdeithasol ers bron i 30 mlynedd ac mae wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol ers dros 20 mlynedd. Dywedodd ei henwebydd ei bod hi wedi "gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl sydd ag angen eu diogelu a'u cefnogi mewn amrywiaeth o rolau" ac mae hi bellach yn helpu myfyrwyr a gweithwyr cymdeithasol newydd cymhwyso i gyrraedd y safon uchaf bosibl wrth iddynt weithio i'r cyngor.

Mae Andrea wedi bod yn eiriolwr allweddol dros weithredu dull gweithredu sy'n cadw plant Powys yn ddiogel o'r enw Arwyddion Diogelwch. Mae'n canolbwyntio ar gydweithio, rheoli risg ac annog y plant sydd wedi cael eu heffeithio i siarad am yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw. Mae hi hefyd yn wych wrth gefnogi plant sy'n derbyn gofal ac yn ymroddedig dros ddod o hyd i'r ffordd orau o gyfathrebu ag unrhyw blentyn y mae hi'n gweithio ag e.

Cafodd Sharon Titley, Swyddog Comisiynu a Phrosiect, gymeradwyaeth uchel yn y categori Cyd-gynhyrchu mewn Diogelu. Mae hi wedi bod yn allweddol wrth sefydlu bwrdd i bobl ifanc 11-17 oed ym Mhowys sydd am ddweud eu dweud am fentrau newydd mewn gofal cymdeithasol ac iechyd, ac mae wedi arwain wrth roi offer cynllunio newydd ar waith sydd â'r nod o ddarparu gwell gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a llesiant.

Cafodd Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig hefyd ei chyflwyno i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Iau, sy'n cynnwys pobl ifanc o Bowys, a hynny am waith animeiddio "pwerus", sydd bellach yn cael ei ddefnyddio mewn hyfforddiant diogelu.

"Mae'n grêt gweld staff o Wasanaethau Cymdeithasol yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu oddi wrth gydweithwyr diogelu sy'n gweithio ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru," dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol. "Rwy'n eu cymeradwyo am bopeth maen nhw wedi ei wneud ac yn parhau i'w wneud i ddiogelu plant Powys rhag niwed."

Ychwanegodd Siân Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "I'r rhan fwyaf o weithwyr cymdeithasol, rhoi cymorth tawel i bobl fyw'r bywyd maen nhw am ei fyw yw'r brif wobr am waith sydd yn aml yn eithriadol o heriol. Roeddwn i wrth fy modd o weld y menywod ymroddedig hyn yn cael cydnabyddiaeth a dathliad cyhoeddus. . Rydym ni'n freintiedig o gael eu cyfrif fel un ohonom ni yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Powys."

Cafwyd hefyd enwebiadau am wobrau i Emma Wright o Gyngor Sir Powys, Rheolwr Tîm Gofal a Chymorth y De; Louisa Rawstron, Rheolwr Tîm, Tîm Gwasanaeth Anabledd Integredig y De; Tanya Bradbury, Prif Weithiwr Cymdeithasol, Tîm Asesu'r Gogledd; a Holly Gordon, Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.

Os ydych chi'n weithiwr cymdeithasol a hoffai ddarganfod rhagor am weithio gyda chydweithwyr gwobrwyedig ym Mhowys, ewch i:

Gallwch weld pob swydd gyfredol sydd ar gael fan hyn: https://cy.powys.gov.uk/swyddigwag?cats=5674502HUr%2C3517682HUr

LLUN: Staff Cyngor Sir Powys a gafodd eu henwebu a'u cefnogwyr yn seremoni wobrwyo flynyddol Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, a gynhaliwyd ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yn Sir Gaerfyrddin.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu