Toglo gwelededd dewislen symudol

Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

Builth Wells Events Safety Group

5 Gorffennaf 2023

Builth Wells Events Safety Group
Bydd cyfres o fesurau diogelwch, sy'n cynnwys ymgyrch i annog ieuenctid i Gael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel, yn dychwelyd cyn Sioe Frenhinol Cymru y mis hwn. 

Bydd yr ymgyrch greadigol a hwyliog sy'n cynnwys arddangos cyfres o bosteri, baneri a chyfryngau eraill mewn lleoliadau trwyddedig ledled Llanfair-ym-Muallt yn ystod wythnos y sioe yn annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol. Caiff yr ymgyrch ei gweithredu gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt.

Nod y mesurau a gyflwynwyd gan y grŵp diogelu, a ffurfiwyd yn 2017 gan Gyngor Sir Powys, yw lleihau risg cyhoeddus a gwella diogelwch y sawl a fydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch tra bo Sioe Frenhinol Cymru yn mynd rhagddi.

Ymhlith y mesurau diogelu eraill a fydd hefyd mewn lle mae'r canlynol:

  • Llwybr cerdded diogel o'r enw y Llwybr Gwyrdd
  • Canolfan feddygol a llesiant sef y Pwynt Cymorth sy'n cael ei weithredu gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
  • Pwynt Cymorth 'Pop up' i ddarparu cyfarwyddyd a chymorth lles dan weithrediad Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
  • Bydd cymorth lles yn cael ei ddarparu gan Fugeiliaid Stryd a Gweithwyr Ieuenctid gyda'r nos
  • Dŵr am ddim sy'n rhodd garedig oddi wrth Radnor Hills
  • Bydd blychau amnest cyffuriau yn cael eu lleoli ar lwybrau mynediad i leoliadau digwyddiadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae Sioe Frenhinol Cymru'n uchafbwynt yng nghalendr llawer o bobl ac mae'n denu degau o filoedd o ymwelwyr i Lanfair-ym-Muallt a'r cylch amgylchynol bob blwyddyn.

"Yn dilyn lansio ymgyrch Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel y llynedd, mae'n grêt gweld yr ymgyrch yn dychwelyd ar gyfer Sioe eleni fel modd hwyliog o gyfathrebu neges bwysig i'r rheini yn Llanfair-ym-Muallt a'r cylch yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Wrth gwrs, rydym am i'n hymwelwyr gael amser grêt. Mae'n achlysur cymdeithasol ac yn gyfle perffaith i ail-gwrdd â hen ffrindiau na weloch ers tro efallai, ond cofiwch yfed ac ymddwyn yn gyfrifol a gofalu ar ôl eich hun a'ch ffrindiau. Gyhyd ag y bo pobl yn Cael Hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel byddan nhw'n cael amser cofiadwy yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru.

"Rydym ni'n deall y bydd rhai o'r mesurau a fydd mewn grym yn peri peth aflonyddwch i breswylwyr sy'n byw yn Llanfair-ym-Muallt. Fodd bynnag, maen nhw'n angenrheidiol i sicrhau ein bod ni'n cadw ymwelwyr a phreswylwyr yn ddiogel drwy gydol wythnos Sioe Frenhinol Cymru."

Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, "Rydym am i bob ymwelydd gael amser diogel a mwynhau ymweld â Sioe Frenhinol Cymru a'r ardaloedd amgylchynol. Fel trefnyddion y digwyddiad, ein blaenoriaeth yw creu amgylchedd diogel a chroesawgar ac rydym ni'n falch o weithio'n agos at Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt i sicrhau bod y mesurau a fydd mewn grym yn darparu diogelwch a thawelwch meddwl i bawb. Diolchwn i'r grŵp am eu holl waith wrth i ni edrych ymlaen at sioe gofiadwy arall. Cofiwch Gael hwyl, Cymryd Gofal a Chadw'n Ddiogel."

Dywedodd William Watkins, Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, prif gynhyrchydd diodydd ysgafn Cymru: "Rydym ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Sioe Frenhinol Cymru eto a darparu'n poteli dŵr i'r sioe amaethyddol hanesyddol hon.

"Mae'r grŵp diogelwch digwyddiadau yn gwneud gwaith gwych bob blwyddyn wrth gadw pawb yn ddiogel yn y sioe ac rydym ni'n falch y bydd ein dŵr ffynnon eithriadol o bur, sy'n tarddu ac yn cael ei botelu ychydig filltiroedd o'r sioe, yn torri syched pawb."