Toglo gwelededd dewislen symudol

Ar eich Marciau, Darllenwch yr Haf yma!

Ready, Set, Read - Summer Reading Challenge 2023

6 Gorffennaf 2023

Ready, Set, Read - Summer Reading Challenge 2023
Mae plant ledled Powys yn cael eu hannog i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf a pharatoi ar gyfer llwyth o ysbryd tîm a digon o hwyl.

Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid wedi creu her sy'n ymwneud â chwaraeon a gemau.

I gymryd rhan:

  • Ewch i ymweld â'ch llyfrgell leol:llenwch y cerdyn cofrestru a wnewch dderbyn ffolder casglwr arbennig pan fyddwch yn dechrau eich Her
  • Cofrestrwch ar-lein:Ewch i https://sialensddarllenyrhaf.org.uk/ a dilynwch y cyfarwyddiadau.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Llewyrchus: "Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gyfle gwych i annog plant i barhau i ddarllen drwy gydol gwyliau'r haf. Mae'n eu galluogi i feithrin sgiliau a hyder cyn i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau ac yn helpu i'w cadw ar y trywydd iawn a chanolbwyntio ar gwblhau'r her.

"Mae'r thema 'Ar eich marciau, Darllenwch!' eleni yn canolbwyntio ar rymuso pobl ifanc i greu cysylltiadau newydd, a rhyddhau pŵer chwarae, chwaraeon a gweithgaredd corfforol trwy ddarllen.

"Mae'r her yn gyfle perffaith i gael plant at ei gilydd i gael hwyl a mwynhau pŵer darllen."

Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi'i hanelu at blant rhwng pedair ac 11 oed ac mae'n rhedeg o ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf tan ganol mis Medi.

Mae gan lyfrgelloedd Powys amrywiaeth o lyfrau ar gael ar gyfer yr her, yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys llyfrau lluniau, storïau cyflym, llyfrau stori, llyfrau gwybodaeth a llyfrau comig.

Bwriad yr her yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen 6 llyfr dros wyliau'r haf. Os byddwch yn cofrestru yn eich llyfrgell leol, byddwch yn derbyn ffolder casglwr am ddim a gallwch gasglu sticeri a gwobrau arbennig wrth i chi ddarllen eich llyfrau. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r her yn derbyn medal a thystysgrif, taleb nofio am ddim i'r teulu, a roddir yn garedig gan Freedom Leisure, a bydd eu henwau'n cael eu cynnwys mewn raffl fawr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.facebook.com/storipowysplant neu cysylltwch â'r gwasanaeth llyfrgell ar library@powys.gov.uk neu 01874 612394