Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffenestr yn agor ar gyfer ceisiadau newydd i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Image of housing, a lecture and manufacturing

10 Gorffennaf 2023

Image of housing, a lecture and manufacturing
Mae ffenestr ymgeisio arall wedi'i lansio fel rhan o raglen ariannu gyffrous a allai helpu cymunedau Powys i adeiladu balchder mewn lle, cynyddu cyfleoedd bywyd i breswylwyr a gyrru twf economaidd da.

Mae'r trydydd galwad am geisiadau i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi cael ei chyhoeddi gan Bartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys. Mae'r bartneriaeth yn penderfynu sut mae dros £23m o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei wario ar draws pedwar maes blaenoriaeth.

Bydd yr alwad ddiweddaraf ar gyfer prosiectau sydd o fewn y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys: "Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw meithrin balchder pobl yn eu cymunedau a chynyddu cyfleoedd i breswylwyr a busnesau.

"Bydd y bartneriaeth yn edrych ar sut y gall gefnogi'r nodau hyn orau ar draws y pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi a bydd yn canolbwyntio ar gael y gwerth mwyaf o'r cyllid hwn i unigolion, cymunedau a busnesau ledled Powys.

"Rwy'n falch iawn bod ffenestr ymgeisio arall wedi agor ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae gan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau y potensial i gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl leol, drwy gyfleoedd i uwchsgilio, ailhyfforddi neu ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o dan y drydedd ffenestr yw 23:59 ddydd Sul, 1 Hydref, 2023.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys y ffurflen gais a'r canllawiau ar sut i wneud cais, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau at ukspf@powys.gov.uk