Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynghorau'n uno i ddangos cefnogaeth yn Pride Cymru 2023

Pride Cymru 2023

10 Gorffennaf 2023

Pride Cymru 2023
Ymunodd Cyngor Sir Powys ag awdurdodau lleol cymdogol yng Nghymru i ddangos cefnogaeth i'r gymuned LHDT+ a helpu i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Gwnaeth yr awdurdod gymryd rhan yn nigwyddiad Pride Cymru y mis diwethaf fel rhan o rwydwaith 'Cynghorau Balch', sydd wedi ei gynllunio i alluogi cynghorau ledled y rhanbarth i weithio ynghyd gan hyrwyddo gwasanaethau a chynnig eu cefnogaeth.

Teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Powys i Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad ochr yn ochr â chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Pen-y-Bont, Casnewydd, Caerdydd a Blaenau Gwent.

Ymunodd staff, cynghorwyr ac aelodau'r fforwm ieuenctid â'r miloedd o bobl a oedd yn gorymdeithio drwy strydoedd Caerdydd gan arddangos ymrwymiad a chefnogaeth pob cyngor i'r gymuned LHDT+ yng Nghymru.

Fel aelod o rwydwaith 'Cynghorau Balch', mae Cyngor Sir Powys yn ymroddedig i fod yn rhagweithiol wrth hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ yn ein gweithluoedd a'n cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae parhau â phresenoldeb Cyngor Sir Powys yn nigwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn anhygoel.

"Rwy'n falch fy mod wedi bod yno yn cynrychioli Powys, ochr yn ochr â llawer o gefnogwyr eraill o'r Cyngor a chynghorau eraill ledled Cymru, o dan faner rhwydwaith 'Cynghorau Balch'.

"Mae gweld yr ymroddiad a'r gefnogaeth a roddir gan y Cyngor i'r gymuned LHDT+ yng Nghymru yn ffantastig a boed i hynny barhau am amser hir."