Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cynnig (Cynllun 20mya)

Fel rhan o'r newidiadau mewn deddfwriaeth a fydd yn gwneud ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn 20mya ar 17 Medi 2023 rydym yn bwriadu gwneud 5 Gorchymyn Rheoli Traffig.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar y newidiadau, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin,yma - Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya diofyn | Llywodraeth.Cymru

Mae'r wybodaeth mapio wedi cael ei lanlwytho i MapDataCymru sydd hefyd yn cynnwys y wybodaeth gefnffyrdd Gweld y map | MapDataCymru

Dyma'r 5 Gorchymyn Traffig arfaethedig:

  1. Gorchymyn Diddymu Terfyn Cyflymder 20mya, parth 20mya a Therfyn Cyflymder Amrywiol 20mya. Diddymu terfynau a pharthau 20mya presennol ac ati gan na fydd angen y rhain /yn ddilys mwyach yng Nghymru.  Felly, byddwn yn dychwelyd y statws cyfyngedig yn ôl ar y ffyrdd hyn [ac eithrio eitem 4 isod] ar yr un diwrnod y bydd ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn cael eu cyfyngu i 20mya.  Felly, bydd y terfyn cyflymder ar y ffyrdd hyn yn parhau i fod yn 20mya a dyma'r broses y mae'n ofynnol i ni ei dilyn. 
  2. GorchymynTerfyn Cyflymder 30mya. Ac eithrio rhai ffyrdd cyfyngedig a fydd yn aros yn 30mya.  Rydym wedi cymhwyso canllawiau Llywodraeth Cymru Pennu eithriadau i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig | LLYWODRAETH.CYMRU ar eithriadau a'r bwriad i gadw rhai rhannau o ffyrdd yn 30mya lle nad ydynt yn breswyl neu os oes ganddynt ddwysedd isel o ffryntiau siopau.  Mae hyn hefyd yn galluogi'r 20mya i ddechrau yn y lleoliad mwyaf priodol lle mae newid yn natur y ffordd gan obeithio y bydd gyrwyr yn parchu'r 20mya yn well.
  3. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngiadau. Yn cyfyngu rhai ffyrdd lle mae anomaledd/anghysondebau yn y goleuadau stryd ac ati.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod y rhannau hynny o'r ffordd yn troi'n 20mya yn gyfreithiol ac yn cael gwared ar unrhyw amwysedd mewn ystyr dechnegol gyfreithiol.
  4. Gorchymyn 40mya Rhosgoch. Creu un parth 20mya yn 40mya i gyd-fynd a gweddill yr anheddiad.  Mae'r ysgol wedi cau ac nid yw'r cyfyngiad 20mya yn briodol ar gyfer lefel y datblygiadau ffryntiau siopau yn Rhosgoch
  5. Gorchymyn Diddymu Ffordd Gyfyngedig Pwllgloyw. Cael gwared ar statws ffordd gyfyngedig ar ran fach o ffordd ym Mhwllgloyw.  Mae hyn er mwyn byrhau hyd y terfyn cyflymder ar yr un ochr i gyd-fynd â'r newid yn yr amgylchedd gyda'r nod o wella'r siawns y bydd gyrwyr yn cydymffurfio â'r terfyn ac y bydd y newid yn fwy addas i amgylchedd y ffordd yn y lleoliad.

Gellir cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynigion yn ysgrifenedig tan 21 Gorffennaf 2023.  Gellir anfon ymatebion i traffic@powys.gov.uk