Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut y gymryd rhan (Cynllun 20 mya)

Gallwch lwytho copi o'r Gorchymyn drafft, y cynllun perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW UNIGOLYN wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn drwy anfon rhybudd at y sawl y mae ei enw wedi lofnodi isod dim hwyrach na 21 Gorffenaf 2023, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Sylwch: Os ydych ym dymuno gwrthwynebu neu wneud neu gefnogi sylwadau, bydd tîm y proisect yn ystyried eich gohebiaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r brosed so ymgynghori ag eraill, mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys y wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni, a'ch data personol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol, fodd bynnag, oni bai fod angen gwneud hynny er mwyn ein galluogi i drin y materion rydych chi wedi dwyn ein sylw atyn nhw.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd y Sir
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG

Gellir anfon gwrthwynebiadau a sylwadau eraill a ddylai gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad post llawn, drwy e-bost at traffic@powys.gov.uk heb fod yn hwyrach na 30 GOrffennaf 2023. Defnyddiwch y geiriad "Cynllun 20 mya" fel y llinell bwnc ar gyfer eich e-bost fel y gellir adnabod eich e-bost yn hawdd fel sylwadau ar y cynnig Gorchymyn Traffig penodol hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu