Cynlluniau cyffrous i'w hystyried ar gyfer cartrefi newydd y cyngor
![Image of external impression of proposed new flats at Ael Y Bryn and Pen Y Bryn in Ystradgynlais](/image/18546/Image-of-external-impression-of-proposed-new-flats-at-Ael-Y-Bryn-and-Pen-Y-Bryn-in-Ystradgynlais/standard.png?m=1689238858163)
13 Gorffennaf 2023
![Image of external impression of proposed new flats at Ael Y Bryn and Pen Y Bryn in Ystradgynlais](/image/18546/Image-of-external-impression-of-proposed-new-flats-at-Ael-Y-Bryn-and-Pen-Y-Bryn-in-Ystradgynlais/gi-responsive__100.png?m=1689238858163)
Mae Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno'r cynlluniau a fydd, os cânt eu cymeradwyo, yn datblygu fflatiau ecogyfeillgar yn Ael Y Bryn a Phen y Bryn yn Ystradgynlais.
Bydd y cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy y cyngor ddydd Mercher, 19 Gorffennaf.
Fel rhan o'r datblygiad, bydd pedwar bloc o'r fflatiau sydd yna eisoes ac sydd ddim yn diwallu'r angen tai ar hyn o bryd yn cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer 16 fflat cyngor un ystafell wely newydd, sydd â galw mawr amdanynt.
Bydd y datblygiad newydd, a fydd yn cynnwys mannau gwyrdd, gerddi a pharcio i breswylwyr, yn rhan o raglen fuddsoddi hirdymor a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw yn Ael Y Bryn a Phen y Bryn.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Fy mhrif flaenoriaeth yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys. Bydd y cynnig cyffrous hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau gyda chartrefi ynni-effeithlon ar gyfer rhent cymdeithasol.
"Mae darparu cartrefi cyngor newydd yn Ystradgynlais yn ymrwymiad ariannol mawr gan y cyngor a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y gymuned."