Grŵp argyfwng hinsawdd yn cynnal ei gyfarfod cyntaf
18 July 2023
Daeth 36 o bobl, sy'n cynrychioli llawer o grwpiau a sefydliadau gwahanol, gan gynnwys cynghorau tref a chymuned, ynghyd ar gyfer trafodaethau cyntaf Grŵp Rhanddeiliaid Hinsawdd Powys tua diwedd mis Mehefin.
Bydd yn helpu llywio'r camau gweithredu a gymerir i leihau allyriadau carbon ar draws y sir, a'r nod yw sicrhau cefnogaeth ar gyfer y camau hyn.
"Daeth llawer o bobl i'r cyfarfod hwn yn sgil y digwyddiad ar thema Natur a'r Amgylchedd a drefnwyd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned Powys a drefnwyd ychydig wythnosau'n gynt, felly mae'n wych gweld ein bod yn dechrau magu ychydig o fomentwm ar y mater hwn," meddai'r Cyng. Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach. "Edrychaf ymlaen yn eiddgar at dderbyn syniadau ac adborth y grŵp hwn wrth inni lunio cynlluniau manwl er mwyn chwarae ein rhan o ran arafu newid hinsawdd.
"Gyda chymorth mwy o bobl, byddwn yn gallu gwireddu cynnydd arwyddocaol o fewn cyfnod byr."
Laura Shewring, Gweithredu Powys ar yr Argyfwng Hinsawdd (PACE): https://www.pacepowys.cymru/ yw cadeirydd Grŵp Rhanddeiliaid Hinsawdd Powys.
Mae'n dilyn penderfyniad Partneriaeth Natur Powys (PNP) i fabwysiadu rôl ymgynghorol i Gyngor Sir Powys mewn perthynas â'r argyfwng natur.
Sefydlwyd y PNP er mwyn ategu adfer natur ym Mhowys, a bydd yn helpu gwireddu'r nod byd-eang o ddiogelu, cysylltu a rheoli 30% o dir, dŵr ffres a moroedd Cymru mewn ffordd gadarnhaol er budd natur erbyn 2030 (targed 30 erbyn 30).
I gyfrannu at y naill grŵp neu'r llall, gallwch gysylltu â:
- Grŵp Rhanddeiliaid Hinsawdd Powys - climate@powys.gov.uk
- Partneriaeth Natur Powys - biodiversity@powys.gov.uk