Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynlluniau cyffrous ar gyfer tai cyngor newydd wedi'u cymeradwyo

Image of external impression of proposed new flats at Ael Y Bryn and Pen Y Bryn in Ystradgynlais

19 Gorffennaf 2023

Image of external impression of proposed new flats at Ael Y Bryn and Pen Y Bryn in Ystradgynlais
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd 16 o gartrefi un ystafell wely yn Ystradgynlais yn cael eu hadeiladu ar ôl i'r cynlluniau cyffrous derbyn sêl bendith.

Bydd Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys yn bwrw ymlaen i adeiladu'r fflatiau ecogyfeillgar yn Ael y Bryn a Phen y Bryn yn Ystradgynlais ar ôl cymeradwyaeth o'r cais cynllunio gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy y cyngor heddiw (Dydd Mercher, 19 Gorffennaf).

Fel rhan o'r datblygiad, bydd pedwar bloc o'r fflatiau sydd yna eisoes ac nad ydynt yn diwallu'r angen tai ar hyn o bryd yn cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer 16 fflat cyngor un ystafell wely newydd, sydd â galw mawr amdanynt.

Bydd y datblygiad newydd, a fydd yn cynnwys mannau gwyrdd, gerddi a pharcio i breswylwyr, yn rhan o raglen fuddsoddi hirdymor a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw yn Ael Y Bryn a Phen y Bryn.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn bod ein cais cynllunio ar gyfer y datblygiad hwn wedi cael ei gymeradwyo. 

"Fy mhrif flaenoriaeth yw mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys.  Bydd y cynnig cyffrous hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau gyda chartrefi ynni-effeithlon ar gyfer rhent cymdeithasol.

"Mae darparu cartrefi cyngor newydd yn Ystradgynlais yn ymrwymiad ariannol mawr gan y cyngor a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y gymuned."