Toglo gwelededd dewislen symudol

Penodi Pennaeth ar gyfer ysgol newydd Aberhonddu

Image of a primary school classroom

20 Gorffennaf 2023

Image of a primary school classroom
Mae wedi cael ei gyhoeddi bod ysgol gynradd newydd a fydd yn agor yn ne Powys y flwyddyn nesaf wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol gyda phenodiad y pennaeth.

Penodwyd Sarah Court yn Bennaeth yr ysgol gynradd newydd yn Aberhonddu yn dilyn proses recriwtio helaeth a gafodd ei oruchwylio gan Gorff Llywodraethu Dros Dro yr ysgol.

Bydd yr ysgol newydd yn agor ym mis Medi 2024 yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cradoc fel rhan o gynlluniau Trawsnewid Addysg gan Gyngor Sir Powys.

Dechreuodd Mrs Court ei gyrfa addysgu 30 mlynedd yn ôl.  Yn ystod ei hamser, datblygodd ei sgiliau addysgu ac arwain trwy amrywiaeth o rolau addysgu, uwch arwain a chynghori yn y DU a ledled y byd. Treuliodd Mrs Court sawl blwyddyn yn gweithio i'r Gwasanaeth Addysg Plant y Lluoedd Arfog Prydeinig yn yr Almaen.  Mae Mrs Court yn byw ger Aberhonddu.

Ar hyn o bryd, mae Mrs Court yn arwain Tîm Grwpiau Agored i Niwed y cyngor, gan gefnogi ysgolion, disgyblion a theuluoedd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a'r Lluoedd Arfog.

Dywedodd Jess Williams, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Dros Dro: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi penodi Sarah yn Bennaeth ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni drosglwyddo i'r ysgol newydd."

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Mrs Court: "Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Bennaeth yr ysgol newydd hon yn Aberhonddu. Rwy'n edrych ymlaen at ddod i adnabod disgyblion, staff a rhieni a meithrin perthnasoedd newydd wrth i ni weithio gyda'n gilydd i gyflawni cyfleoedd ar gyfer pob disgybl."

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn longyfarch Sarah ar ei phenodiad yn Bennaeth yr ysgol newydd yn Aberhonddu. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni gydweithio i wella canlyniadau i'n dysgwyr. Rwy'n dymuno'r gorau iddi hi."

Mae'r ysgol newydd yn rhan o gynlluniau cyffrous Trawsnewid Addysg ar gyfer dalgylch Aberhonddu. Bydd yr ysgol newydd yn gweithredu ar y tri safle presennol cyn symud i adeilad newydd sbon yn Aberhonddu a fydd yn darparu cyfleusterau newydd sbon ar gyfer disgyblion yr 21ain ganrif.