Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffarmwr yn cael bil am £1.3mil am beidio â chael gwared ar ddefaid marw

A law book and gavel

26 Gorffennaf 2023

A law book and gavel
Mae methu â chael gwared ar gelanedd 17 o ddefaid mewn ffordd briodol wedi arwain at ffarmwr o Bowys yn derbyn bil o dros £1,300 ar ôl cael ei erlyn gan Dîm Iechyd Anifeiliaid y cyngor sir.

Ymddangosodd Terry Martin Griffiths, Cartref, Trecastell, Aberhonddu, a blediodd yn euog i ddwy drosedd dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014, gerbron Llys Ynadon Llandrindod ar ddydd Mercher 19 Gorffennaf. Cafodd ddirwy o £340 ac fe'i orchmynwyd i dalu costau o £1,000 a gordal dioddefwr o £34.

Clywodd y llys bod swyddogion iechyd anifeiliaid wedi ymweld â Chartref ym mis Rhagfyr 2021 a daethpwyd o hyd i gelanedd 11 o ddefaid oedd heb eu gwaredu mewn ffordd briodol.  Llai na thri mis wedyn, darganfuwyd celanedd chwech o ddefaid eraill oedd heb eu gwaredu mewn ffordd briodol.

Dywedodd y Cyng Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys fwy Diogel: "Mae peidio â chael gwared ar gelanedd da byw yn broblem ddifrifol. Nid yn unig mae'n golygu risg gwirioneddol o haint, ond hefyd mae'n niweidio enw da'r gymuned ffermio.

"Byddem yn cynghori ffermwyr, o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 bod gofyn iddyn nhw drefnu casglu celanedd, a'u cludo i'w gwaredu mewn ffordd a gymeradwyir.

"Mae'r gyfraith yn glir, ac yn angenrheidiol er mwyn rheoli lledaeniad clefydau i anifeiliaid eraill ac i ddiogelu cadwyn fwyd pobl. Mae torri'r rheoliadau hyn yn golygu bygythiad i iechyd anifeiliaid a bodau dynol.

"Dylai'r achos hwn atgoffa'r gymuned ffermio ym Mhowys y dylid gwaredu ar gelanedd da byw yn y ffordd gywir.

"Os nad yw ffermwyr yn dilyn y rheoliadau hyn, byddwn yn ymchwilio ac yn cymryd y camau priodol."

Ar gyfer cyngor ar les anifeiliaid, cadw anifeiliaid a ffermir, neu i gofnodi problem: Lles Anifeiliaid