Toglo gwelededd dewislen symudol

Derbyniad Busnes yn Sioe Frenhinol Cymru

Arthyr Emyr, Global Centre of Rail Excellence

26 Gorffennaf 2023

Arthyr Emyr, Global Centre of Rail Excellence
Estynnwyd gwahoddiad i arweinyddion busnes o Bowys gyfan i dderbyniad busnes yn Sioe Frenhinol Cymru, trwy Gyngor Sir Powys, er mwyn dysgu ynghylch cynlluniau allweddol yn y sir.

Yn ystod cyflwyniad gan aelod y Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, y Cyng. David Selby amlinellwyd y cynlluniau allweddol dan Gynllun Gwella Corfforaethol a Chydraddoldeb y Cyngor - Cryfach, Tecach, Gwyrddach.

Cyfeiriodd at fuddsoddiad a phrosiectau dan y Gronfa Ffyniant Bro, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Y Pethau Pwysig a Thrawsnewid Trefi.

"Yn y derbyniad tynwyd sylw at bwysigrwydd gweithio gyda busnesau ledled Powys er mwyn gwireddu Powys fwy Llewyrchus. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyflawni datblygiadau allweddol ar draws y sir i helpu cryfhau economi'r sir," meddai.

Roedd y derbyniad hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant Gwobrwyon Busnes gan Ceri Stephens, Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, oedd yn cynnwys cyflwyniad gan Reolwr Gyfarwyddwr Wipak, Andrew Newbold - enillwyr gwobr 2022.

Yn ogystal clywodd gwesteion gan Arthyr Emyr o brosiect Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd o ran y cyfleoedd ar gyfer busnesau trwy'r prosiect preifat/sector cyhoeddus gwerth  £400m  ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd a seilwaith cysylltiedig ar ffin Powys ger Ystradgynlais.  Dylai sefydliadau sydd â diddordeb yn y cyfleoedd gofrestru ar wefan GwerthwchiGymru ac ymuno â'u rhestr bostio 'Cymuned Cadwyn Gyflenwi' ar gcre.wales.

Daeth y sesiwn i ben gyda chyflwyniad gan wasanaethau Caffael a Datblygu Economaidd y Cyngor Sir ar gyfleoedd i fusnesau a chydweithio gyda'r cyngor ar brosiectau mawr.

Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost at: regeneration@powys.gov.uk

LLUN: Arthyr Emyr o brosiect Canolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu