Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymeradwyo cynllun i helpu pobl ddigartref Powys

A homeless couple by a car

2 Awst 2023

A homeless couple by a car
Mae Cabinet y cyngor sir wedi cefnogi cynllun i gael pobl ddigartref ym Mhowys i lety sefydlog cyn gynted â phosibl.

Mae Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Powys yn manylu ar y modd y bydd y cyngor, ac asiantaethau eraill, fel cymdeithasau tai, yn gweithio gyda'i gilydd dros y pum mlynedd nesaf (2023-28) i atal digartrefedd a lle nad yw hynny'n bosibl, i symud pobl cyn gynted â phosibl o lety dros dro i gartref sefydlog.

Mae'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym yn cynnwys cynigion ar gyfer darparu:

  • Dwy 'ganolfan brysbennu mynediad ar unwaith 24/7' lle gallai pobl fynd i ofyn am gymorth a chael asesiad o'u hanghenion. Bydd y rhain hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu llety dros dro saff a diogel i'r rhai sy'n ddigartref, am hyd at wythnos.
  • Dau 'gynllun llety â chymorth 24/7 dros dro' i ddarparu cartrefi hunangynhwysol i'r rhai ag anghenion cymhleth na allant fyw yn annibynnol yn y gymuned ar unwaith.
  • Cartrefi modiwlaidd hunangynhwysol i ddarparu mwy o letyau dros dro.

Bydd newidiadau hefyd i Bolisi Dyrannu 'Cartrefi ym Mhowys', sy'n cynnwys holl dai cymdeithasol y sir.

  1. Bydd pobl y canfuwyd eu bod yn ddigartref ac wedi'u lleoli mewn llety dros dro nawr yn cael cynnig cyfle i wneud eu tai dros dro yn gartrefi parhaol, os yw'r tai dros dro yn addas ar gyfer eu hanghenion. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i bobl symud eto oni bai nad yw eu llety dros dro yn fath addas o gartref iddyn nhw.
  2. Bydd hyd gwasanaeth unigolyn yn Lluoedd Arfog Prydain yn cael ei ystyried, fel pe bai'r person hwnnw wedi bod yn byw yn eu cymuned leol ym Mhowys, wrth gytuno ar flaenoriaeth ar gyfer tai fforddiadwy. Mae hyn yn ychwanegu at y gefnogaeth y mae'r Cyngor yn ei chynnig yng Nghyfamod y Lluoedd Arfog.

"Mewn ychydig dros dair blynedd rydym wedi gweld nifer yr aelwydydd sy'n gofyn am dai fforddiadwy yn mwy na dyblu, mae nifer yr aelwydydd digartref wedi cynyddu mwy na thraean, ac mae nifer yr aelwydydd sydd wedi'u lleoli mewn llety dros dro - gan gynnwys gwely a brecwast bron â bod bedair gwaith yn uwch," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd a Deiliad Portffolio Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Decach. "Felly, roedd angen i ni weithredu i fynd i'r afael â'r galw digynsail hwn.

"Bydd ein cynllun yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn 'barod am dai' gyda'r gefnogaeth gywir, yn sicrhau bod pobl yn treulio cyn lleied o amser â phosib mewn llety dros dro; a phan fydd angen llety dros dro arnynt, bydd o safon uchel. Bydd hefyd yn helpu pobl i gael mynediad i'r cartref iawn yn y lle iawn iddynt ac yn nodi y bydd hyn yn 'gartref annibynnol, prif ffrwd' i'r rhan fwyaf, ond y gall eraill ddewis llety â chymorth.

"Dylai hefyd ein helpu i leihau costau dros amser, drwy leihau'r angen i ddefnyddio darparwyr gwely a brecwast ar gyfer llety dros dro, a all fod yn gostus iawn."

Wrth fabwysiadu'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym pum mlynedd hwn, mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi gofyniad Llywodraeth Cymru i holl awdurdodau lleol Cymru nodi sut y byddant yn lleihau ac yn datrys digartrefedd cyn gynted â phosibl.