Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfarwyddwr Gweithredol yn gadael

Nigel Brinn

3 Awst 2023

Nigel Brinn
Mae'r cyngor wedi cadarnhau y bydd Cyfarwyddwr Gweithredol yng Nghyngor Sir Powys yn gadael yr awdurdod ar gyfer swydd newydd gydag awdurdod lleol arall.

Bydd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd yn gadael y cyngor i ymgymryd â rôl newydd fel Prif Weithredwr Cyngor Dosbarth Fforest y Ddena. 

Dywedodd Jack Straw, Prif Weithredwr Dros Dro: "Hoffwn ddiolch i Nigel am ei waith caled a'i ymroddiad dros y naw mlynedd diwethaf.  Ymunodd yn gyntaf fel Pennaeth Priffyrdd cyn dod yn Gyfarwyddwr yn 2018."

Gan gadarnhau ei fod wedi cael cynnig ac wedi derbyn y rôl fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Dosbarth Fforest y Ddena, dywedodd Nigel; "Ar ôl naw mlynedd ym Mhowys mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i'w wneud ond mae'n cynnig rhy dda i'w wrthod, ac mae'n gyfle gwych i mi yn bersonol ac yn broffesiynol.

"Mae gweithio ym Mhowys wedi bod yn amlwg yn uchafbwynt gyrfa ac mae'r rolau rwyf wedi'u cyflawni wedi bod yn hynod amrywiol, yn ddiddorol tu hwnt ac yn hollol werth chweil. Ni fyddai unrhyw un o'r rhain wedi bod yn bosibl heb gymorth, arweiniad a chyfeillgarwch tîm ehangach aruthrol Powys ac am hynny byddaf yn hynod ddiolchgar am byth."