Toglo gwelededd dewislen symudol

Pêl-droedwraig Cymru ac 11 arall yn derbyn 'set o adenydd' oddi wrth y cyngor

Chair Awards at Royal Welsh Show 2023

04 Awst 2023

Chair Awards at Royal Welsh Show 2023
Mae pêl-droedwraig ryngwladol Cymru wedi derbyn gwobr oddi wrth Gadeirydd Cyngor Sir Powys am yr hyn a gyflawnodd yng ngêm y menywod a hithau ond yn 19 oed.

Cyflwynwyd gwobr Barcud Aur i Carrie Jones, o'r Drenewydd gan y Cynghorydd Beverley Baynham yn ystod seremoni yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 26 Gorffennaf. 

Dechreuodd ar ei thaith chwaraeon pan oedd hi'n saith oed, gan chwarae i Sêr Gwyn y Drenewydd, cyn newid i chwarae pêl-droed bechgyn, cyn gynted ag yr oedd caniatâd iddi wneud hynny yn sgil cyfyngiadau rheolau, gyda Thîm Iau Aberriw.

Ers hynny aeth yn ei blaen i fod yn gapten Cymru O Dan 15 oed, chwarae i Gymru O Dan 17 Oed, a gwneud ei hymddangosiad cyntaf i'r ochr hŷn pan oedd hi ond yn 15 oed, gan chwarae yn rowndiau cymhwyso Ewro 2021. Mae hi bellach wedi arwyddo gyda Manceinion Unedig a threuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Dinas Caerlŷr, mae hi wedi ennill 20 cap.

Yn y seremoni, gwnaeth y Cynghorydd Baynham hefyd gyflwyno gwobrau Barcud Arian i 11 o bobl am eu perfformiadau rhagorol neu ymroddiad eithriadol i'w cymunedau. Sef:

  • Tracy Lewis, o Lanbister, sy'n ymwneud â'i CFfI lleol, gan redeg clwb dal i fyny wythnosol hŷn ac mae hi wedi sefydlu noson fisol o gwrw a bowls, ac mae hefyd yn gweithio i'r elusen leol, Mind Canolbarth Powys.
  • Leanne Davies, Cadeirydd Sir ar gyfer CFfI Brycheiniog, sydd wedi ymroi i'w rôl o hyrwyddo a chefnogi'r sefydliad ieuenctid yn yr ardal.
  • Ethan Orton, chwaraewr badminton o Aberhonddu, sydd yn ddiweddar wedi bod yng Ngemau Olympaidd Arbennig Berlin yn cynrychioli Tîm Prydain, ble yr enillodd fedal arian yn y gêm ddwbl gymysg a medal aur yn y senglau. 
  • Joshua Longbottom, o Aberhonddu, a wnaeth hefyd fynd i Gemau Olympaidd Arbennig Berlin a chynrychioli Tîm Prydain, gan gystadlu yn y 'shot put'.
  • Kate Rayner, o'r Drenewydd, sef cydlynydd grŵp lleol Gwylio Cyflymder Cymunedol. Mae hi allan ym mhob tywydd yn ceisio diogelu ei chymuned, mae hi wedi ymgyrchu i ostwng terfyn cyflymder ac i gael llwybr teithio llesol diogel ar gyfer cerdded a seiclo.
  • Gary Williams sydd wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd Clwb Rygbi'r Trallwng ers 30 o flynyddoedd, ysgrifennydd Rygbi Gogledd Cymru ers 20 mlynedd, a 10 mlynedd yn ôl sefydlodd 'The Oval Zone', sef cylchgrawn ar-lein am ddim yn hyrwyddo'r holl glybiau rygbi.
  • Roche Davies sydd wedi gwasanaethu ar Gyngor Cymunedol Llandinam ers 58 o flynyddoedd, ac sydd hefyd wedi bod yn aelod o Bwyllgor Neuadd Pentref Llandinam ac wedi cynrychioli ei ardal ar Gyngor Sir Powys. Yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd sir, cododd £10,000 ar gyfer Ymchwil Canser DU a'r Gymdeithas Alzheimer yn ystod ei flwyddyn fel Cadeirydd yn 2014-15.
  • Delyth Powell yw Trefnydd y Sir ar gyfer CFfI Maesyfed. Mae hi'n ymroddedig i wneud i bethau ddigwydd yn y sefydliad ieuenctid ac annog ac ysgogi eraill i gyflawni eu potensial hefyd.
  • John Wilding, o Norton - mae e wedi treulio sawl degawd yn cynnig ei amser, cyngor, deunyddiau a pheiriannu i'w gymuned. Ymddeolodd o Gyngor Tref Llanandras adeg yr etholiadau diwethaf, ond ar ôl deufis penderfynodd ei fod yn gweld ei eisiau gymaint cafodd ei gyfethol yn ôl eto!
  • John Lloyd o Raeadr - mae e wedi cysegru llawer o oriau o'i amser yn hyrwyddo'r dref a chefnogi busnesau lleol. Ag yntau 'n 86 mlwydd oed, byddech chi'n disgwyl y byddai'n arafu, ond mae e wedi parhau i yrru pobl i apwyntiadau neu helpu gyda digwyddiadau cymunedol a'r eglwys.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Beverley Baynham,: "Hoffwn ddiolch i bawb a dreuliodd yr amser i anfon enwebiad. Roedd hi'n dipyn o dasg dewis y goreuon, ond roedd yn anrhydedd fawr ac yn fraint cyflwyno'r unigolion â'u gwobrau.

"Roedd yr holl enillwyr yn haeddiannol am amrywiol o wahanol resymau, ond roeddent yr un mor deilwng â'i gilydd. Mae pob un ohonynt wedi dangos perfformiad eithriadol neu wedi gwneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau ac yn wirioneddol haeddu eu gwobr. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd."

Gwobrau dinesig yw'r gwobrau Barcud Aur ac Arian sy'n cael eu cyflwyno i bobl sy'n byw ym Mhowys ac sydd wedi cyfrannu'n sylweddol i'w cymuned neu gyflawni rhywbeth eithriadol yn eu maes chwaraeon. Caiff enwebiadau eu cyflwyno i Gadeirydd y Cyngor drwy gydol y flwyddyn gan Gynghorwyr, a'u gwobrwyo yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.