Toglo gwelededd dewislen symudol

'Cynllun Arbed Ynni Powys' Tystebau

testimonials

Roedd un o'r trigolion hynaf ar y stad yn ystyried gosod yr offer ac meddai ei mab ''ewch amdani Mam, mi faswn i'n falch pe bawn i'n byw ym Mhowys gyda'r cymorth grant sydd ar gael''.

Meddai hefyd ''Derbyniais reiddiaduron newydd, pibellau newydd, a pheiriant newydd gyda'r ASHP a chefais y dewis o ddau leoliad i roi hwn yn y tŷ, sydd bellach wedi'i guddio mewn cwpwrdd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gosodiad gan fod y gweithwyr wedi gorchuddio fy holl garpedi a dodrefn oherwydd roeddwn yn poeni am y glanhau, y sŵn a'r llwch. Dywedodd y gweithwyr wrthyf y byddent  hyd yn oed yn gofalu am hyn fel pe bai hwn yn gartref iddyn nhw eu hunain, ac ar ôl ei orffen allwn i ddim stopio gwenu''.

Meddai preswylydd arall ''Mae mynd yn wyrddach yn teimlo'n dda gan fy mod yn arfer talu £44 y mis, a nawr mae gen i obsesiwn gyda fy ap ar y ffôn oherwydd ei fod yn arbed arian i mi ac mae'r swm yr ydym yn ei arbed yn wych. Mae angen y pecyn cyflawn o ASHP, solar a batris i wneud i hyn weithio. Ddoe gwariais 1c ar ynni ac erbyn 10am y bore wedyn mae'r batris wedi'u gwefru'n llawn eto, diolch i'r paneli solar''.

Meddai un preswylydd ''Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw meddwl am yr hyn yr ydych yn ei wneud a phryd wrth i ni i gyd gadw at ein trefn arferol. Nid oedd newidiadau bach i'm trefn arferol yn broblem, ac roedd yr awgrymiadau gan y contractwyr yn ddefnyddiol iawn''.