Toglo gwelededd dewislen symudol

'Cynllun Arbed Ynni Powys' Rolau a Chyfrifoldebau

Roles

Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO4)

Cynllun effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y DU ar gyfer Prydain Fawr yw'r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO). Mae bellach yn ei bedwaredd fersiwn. Mae ECO '4' yn gynllun pedair blynedd, a bwriedir iddo redeg o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2026. Amcangyfrifir bod ei werth oddeutu £4 biliwn dros oes y rhaglen.

Mae'r cynllun ECO yn gweithio trwy osod 'Rhwymedigaeth Lleihau Costau Gwresogi Cartref' (HHCRO) ar gyflenwyr ynni canolig a mawr. O dan HHCRO, mae'n rhaid i gyflenwyr sy'n rhan o'r rhwymedigaeth yma hyrwyddo mesurau sy'n gwella gallu aelwydydd incwm isel, bregus, sy'n dioddef tlodi tanwydd i wresogi eu cartrefi. Mae hyn yn cynnwys camau sy'n arwain at lai o ddefnydd o ynni, megis gosod inswleiddio neu uwchraddio'u system wresogi. Rhennir y targed cyffredinol ar gyfer y mesurau hyn rhwng cyflenwyr yn seiliedig ar eu cyfran gymharol o'r farchnad nwy a thrydan domestig. Am fwy o wybodaeth am ECO, gweler https://www.gov.uk/government/publications/the-energy-company-obligation-find-out-if-you-are-eligible

OFGEM

Mae'r Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan (OFGEM) yn rheoleiddio'r cwmnïau monopoli sy'n rhedeg y rhwydweithiau nwy a thrydan. Hi sy'n llunio penderfyniadau ar reolaethau a gorfodi prisiau, gan weithredu er budd defnyddwyr, yn enwedig pobl fregus, trwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn elwa o amgylchedd glanach, gwyrddach. O dan ECO4, mae Llywodraeth y DU wedi penodi OFGEM yn weinyddwr y cynllun. Ar gyfer ymholiadau neu gwynion gweler: https://www.ofgem.gov.uk/eco4-complaints-process

TrustMark

Menter gymdeithasol ddielw yw TrustMark a dyma'r unig Gynllun Ansawdd a Gymeradwywyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwelliannau a wneir yn y cartref ac o'i gwmpas. O dan ECO4, rhaidi gontractwyr fod wedi'u cofrestru a'u cymeradwyo gan TrustMark. Rhaid ymgymryd â gwaith o dan ECO4  i'r  safon Manyleb ar gael i'r Cyhoedd 2035 (PAS2035) fel y nodir gan Lywodraeth y DU. Pe bai anghydfod yn codi rhwng perchennog y cartref a'r contractwr sy'n cyflwyno mesurau a ariennir gan ECO, yna TrustMark yw'r pwynt galw cyntaf i helpu i ddatrys y mater. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.trustmark.org.uk/homeowner/information-and-guidance/if-things-go-wrong    

Cymru Gynnes

Cwmni Budd Cymunedol yw Cymru Gynnes sy'n arbenigo mewn helpu i leihau tlodi tanwydd drwy ddarparu rhaglenni cynhesrwydd fforddiadwy. O dan yr ECO4, mae Cymru Gynnes yn gweinyddu ceisiadau gan ddeiliaid tai, yn gwirio'u cymhwysedd ac yn eu hatgyfeirio i gontractwyr a gymeradwywyd gan TrustMark sy'n gweithredu yn yr ardal. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.warmwales.org.uk/eco/

Awdurdod Lleol

Ym Mhowys, mae'r Awdurdod Lleol (ALl) wedi cyhoeddi 'Datganiad o Fwriad' (SOI) fel y'i nodir gan OFGEM ar gyfer ECO4 - gweler yma: Benthyciadau Gwella Cartrefi a Chymorth Ariannol Trwy ychwanegu dull 'hyblyg' wrth ymdrin ag ECO, ehangir meini prawf cymhwysedd aelwydydd i gynnwys elfennau o dlodi tanwydd a salwch. Gelwir hyn yn ECO4-Flex. Mae rôl a chyfrifoldeb yr ALl o dan ECO4 wedi'i gyfyngu i groeswirio bod deiliad y tŷ yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd fel y nodir yn yr SOI a chyhoeddi 'datganiad' i OFEGM. Nid yw'r ALl yn gyfrifol am grefftwaith, nac am ddarparu gwasanaeth datrys rhwng deiliad y tŷ a'r contractwyr.

Perchennog

Cyfrifoldeb y deiliad tŷ yw sicrhau bod ceisiadau am gyllid ECO yn wir ac yn gywir yn unol â'r meini prawf cymhwysedd. Dylai'r perchennog/landlord fodloni ei hun bod yr holl ganiatadau angenrheidiol yn weithredol cyn dechrau'r gwaith. Anghydfod rhwng perchennog y cartref a'r contractwr ECO sydd wedi'i gyflogi fydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o hyn. Felly, gan berchennog y cartref y mae'r cyfrifoldeb am safon crefftwaith a wneir yn y cartref o hyd, oni bai bod y ddyletswydd honno'n cael ei rhyddhau i drydydd parti fel syrfëwr neu Bensaer. Byddai hwn yn drefniant preifat nad yw'n cael ei ariannu o dan ECO. Am fwy o wybodaeth am ECO4 gweler: https://www.gov.uk/government/consultations/design-of-the-energy-company-obligation-eco4-2022-2026